Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhuddo Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig o esgeuluso Port Talbot.

Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad bod cwmni Tata Steel, sydd â gweithfeydd dur yn y dref, am gau eu ffwrneisi chwyth olaf, allai olygu colli hyd at 2,000 o swyddi yno.

Mae disgwyl i 3,000 o swyddi gael eu colli ar draws holl safleoedd y cwmni yn y Deyrnas Unedig.

‘Effaith ddinistriol ar gymunedau’

“Dw i’n siomedig dros ben o glywed y bydd Tata Steel yn cau eu ffwrneisi chwyth olaf yn y Deyrnas Unedig – rywbeth allai gael effaith ddinistriol ar gymunedau ledled y wlad, yn enwedig ym Mhort Talbot, lle mae’r gymuned leol yn ddibynnol ar y ffatri ddur gerllaw,” meddai Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

“Trwy eu hanallu i gefnogi buddsoddiad yn nur y Deyrnas Unedig, mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi esgeuluso trefi ledled y wlad fel Port Talbot.

“Pe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i gyflwyno strategaeth ddiwydiannol go iawn a chynaliadwy sy’n gwarchod swyddi ac ar yr un pryd yn cefnogi’r trosglwyddiad i sectorau carbon isel, fydden ni ddim yn canfod ein hunain yn y llanast yma.

“Ond rŵan, rydyn ni yma ar fin bod yn dyst i ddinistrio Port Talbot.

“Fydd y Prif Weinidog na’i Gabinet fyth yn gwybod sut brofiad yw hi i’r miloedd o weithwyr sydd mewn perygl o golli eu swyddi; fyddan nhw fyth yn gwybod am y pryder a’r gofid sy’n dod yn sgil wynebu colli bywoliaeth.

“Fyddan nhw fyth yn gwybod, a fyddan nhw’n syml iawn ddim yn poeni.

“Dw i’n galw ar Tata Steel ar frys i oedi’r penderfyniad hwn ac ystyried yr effaith gaiff hyn.

“Bydd colli cynifer o swyddi haf yma yn ystod argyfwng ariannol yn ddinistriol.”

‘Taflu gweithwyr i’r domen sbwriel’

Mae Plaid Cymru hefyd wedi mynegi pryder ynghylch y sefyllfa, gan fynnu na ddylai datgarboneiddio ddigwydd ar draul swyddi’r gweithwyr.

“Mae penderfyniad Tata i fwrw ymlaen â cholledion posib o 3,000 o swyddi yng Nghymru’n hollol ddinistriol,” meddai Luke Fletcher a Sioned Williams, dau Aelod o’r Senedd yn y rhanbarth.

“Mae Plaid Cymru’n sefyll mewn undod â’r holl weithwyr ar yr adeg hon, ac rydym yn barod i gefnogi’r rheiny sydd ei hangen.

“Port Talbot yw safle mwyaf Tata yn y Deyrnas Unedig, a bydd gweithwyr yma’n hynod bryderus am hyn.

“Ddylai datgarboneiddio ddim bod ar draul gweithwyr, ac ar hyn o bryd rydyn ni’n gweld gweithwyr â chryn sgiliau ddylai fod yn chwarae rhan yn y symudiad hwnnw yn cael eu taflu i’r domen sbwriel.

“Yn hytrach na thorri swyddi, dylai Tata ganolbwyntio ar ailhyfforddi ac ailsgilio, fel y gall gweithwyr symud i wneud dur carbon-niwtral.

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru gamu i mewn i sicrhau bod y rheiny sy’n wynebu colli eu swyddi’n derbyn cymorth ar frys.

“Bydd hyn yn cael effaith ddinistriol, nid yn unig ar bobol Port Talbot a’i chymunedau cyfagos, ond hefyd ar yr economi leol a chenedlaethol.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydyn ni mewn trafodaethau â Tata Steel UK a’r undebau llafur cydnabyddedig, ac wedi mynd at Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch cynigion yn ymwneud â dyfodol gweithrediadau’r cwmni yng Nghymru,” meddai Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi.

“Nid problem Cymru yn unig mo hon.

“Mae dur yn ased sofran, a dylid ei drin felly gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.”