Mae Mudiad Meithrin wedi cyhoeddi cynnydd o 38% yn nifer yr oriau o ofal plant sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg bob wythnos bellach.
Yn ôl y Prif Weithredwr Dr Gwenllian Lansdown Davies, mae’r ffigwr wedi codi o 6,180 o oriau yr wythnos yn 2015-16 i 8,554 eleni – 2,374 yn fwy o oriau, a’r nifer fwyaf o oriau erioed.
Mae’r data’n cadarnhau pwysigrwydd gwaith Mudiad Meithrin i ehangu gwasanaethau Cylchoedd Meithrin, ynghyd â’r gwaith o agor Cylchoedd Meithrin newydd trwy’r cynllun Sefydlu a Symud (SaS), medd y mudiad.
Ers sefydlu’r cynllun SaS yn 2017, mae 61 o Gylchoedd Meithrin wedi’u hagor neu ehangu ledled Cymru.
Yn ogystal, mae canran dilyniant yn parhau yn uchel ledled Cymru, gyda 86.85% o blant yn trosglwyddo o’r Cylchoedd Meithrin i addysg Gymraeg.
Gwelodd sawl sir y cynnydd uchaf mewn dilyniant ers 2016, gyda Chonwy yn cynyddu o 83.37% yn 2015-16 i 99.66% yn 2022-23, a Phowys yn cynyddu o 74.27% yn 2015-16 i 86.32% yn 2022-23.
Mae’r data hefyd yn fodd i dynnu sylw at y model cynyddol sydd i’w weld yn datblygu yn y Cylchoedd Meithrin drwy symud o ofal sesiynol am fore yn unig, fel oedd yn arferol yn draddodiadol, i gynnig darpariaeth gofal dydd llawn a’r manteision amlwg hynny i blant a’u rhieni/gofalwyr.
Bellach, mae 11,076 o blant yn mynychu’r Cylchoedd Meithrin ar hyd a lled Cymru, gan gynnig addysg a gofal dydd fforddiadwy o safon uchel i deuluoedd.
“Mae hyn yn rhoi mwy o dystiolaeth i ni am gynnydd ieithyddol y plant na ffigyrau plant a dilyniant i addysg Gymraeg yn unig, achos yn amlwg, po fwyaf o gyswllt y caiff plentyn gyda’r Gymraeg, po orau, gan y bydd yn caffael yr iaith yn gyflymach,” meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies.