Gall rhoi statws dinas i dref Llanelli annog buddsoddiadau newydd ac agor y drws i drafodaethau ar sut i wella gwasanaethau yno, yn ôl cynghorydd tref.

Daw sylwadau Andre McPherson, dirprwy arweinydd Cyngor Tref Llanelli, yn dilyn y newyddion bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn edrych ar y camau cyntaf yn y gobaith y daw Llanelli’n wythfed dinas Cymru.

Gyda thros 42,000 o bobol yn byw yno, Llanelli yw’r dref fwyaf yn Sir Gaerfyrddin a’r dref fwyaf yn y gorllewin – heb gynnwys dinas Abertawe.

Mae Andre McPherson yn anghytuno â’r farn nad yw Llanelli’n ddigon mawr nac yn cynnig digon i allu cyfiawnhau derbyn statws dinas.

“Ydyn ni’n ddigon mawr i fod yn ddinas? Ydyn, rydyn ni’n ddigon mawr i fod yn ddinas,” meddai wrth golwg360.

“Mae ganddi lawer iawn i’w gynnig, nid yn unig i Gymru ond i’r Deyrnas Unedig gyfan.

“Mae Llanelli’n haeddu cael ei hadnabod fel dinas.”

Ychwanega ei fod yn credu y byddai’r cam yn denu buddsoddiadau gan gwmnïau allanol, ac o fudd economaidd i’r dref.

“Mae’n gyfle mor wych, a gall ddod â chymaint o fuddsoddiad,” meddai.

“Rwy’n meddwl y gallai derbyn statws dinas ddod â ffyniant i Lanelli, a gall ddenu cyfleoedd newydd.

“Rwy’n teimlo ei fod e’n gyfle i sbarduno buddsoddiadau pellach maes o law, a chael mwy o reolaeth dros bethau.”

Ailedrych ar yr uned gofal brys

Yn ôl y diffiniad traddodiadol, mae gan ddinas brifysgol neu eglwys gadeiriol.

Fodd bynnag, dydy hyn ddim yn rheol gadarn a gall statws dinas gael ei roi i dref yn ôl disgresiwn y brenin.

Ond mae rhai’n bryderus nad oes gan Lanelli ddigon o adnoddau i allu bod yn ddinas.

Daw hyn wedi i’r uned gofal brys yn Ysbyty Tywysog Philip gau rai blynyddoedd yn ôl oherwydd pwysau cynyddol.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i drigolion Llanelli deithio i Gaerfyrddin neu i Abertawe i dderbyn gofal brys.

Gobaith Andre McPherson yw y byddai statws dinas yn galluogi’r Cyngor i ailedrych ar sefyllfa’r ysbyty.

“Pan rydych chi’n dod â’r gair dinas i mewn i bethau, rwy’n meddwl bod hynny yn dod â swyddi i’r ardal,” meddai.

“Ac rwy’n gwybod y byddai’n dod â’r cyfle i ailedrych ar y sefyllfa gyda’r ysbyty.

“Gall rhywbeth fel hyn helpu’r sefyllfa ac rwy’n meddwl, wrth gael statws dinas, y gallwn ni fynd yn ôl atyn nhw a dweud, ‘Wel, rydym yn ddinas ac felly dylen ni gael ysbyty sy’n gweithredu’n llawn’.”