Dylid gosod cap ar y cynnydd yn nhreth y cyngor yng Nghymru, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Byddai’r cap sy’n cael ei awgrymu’n golygu y byddai’n rhaid cynnal refferendwm lleol er mwyn cynyddu treth y cyngor gan fwy na 5%.
O blith y cynghorau sydd wedi cynnig cyfraddau treth y cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, 8.46% yw’r cynnydd cyfartalog arfaethedig.
Yn Sir Benfro, mae’r cyngor sir wedi ymgynghori ar gynyddu’r gyfradd gan 25%.
Hyd yn hyn, mae’r holl gynghorau sydd wedi cynnig cyfraddau ar gyfer y flwyddyn nesaf – pob cyngor oni bai am dri – yn cynnig cynnydd o 3% o leiaf.
Mae pob sir oni bai am Flaenau Gwent, Caerdydd, Sir y Fflint, Torfaen ac, o bosib, Rhondda Cynon Taf, wedi cynnig cynnydd o fwy na 5%.
‘Lot fawr o bwysau ar bobol’
Dywed Sam Rowlands, llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr Cymreig, y bydd cynnydd yn nhreth y cyngor yn rhoi “lot fawr o bwysau” ar bobol sy’n gweithio’n galed.
“Mae cynghorau’n gwneud mwy na’r gofyn i wasanaethu trigolion, ond ar adeg pan fo cyllidebau teuluoedd yn cael eu hymestyn o ganlyniad i bwysau rhyngwladol, rhaid i bobol ledled Cymru gael eu hamddiffyn rhag cynnydd anferth i dreth y cyngor,” meddai.
“Dylai Llywodraeth Cymru ariannu cynghorau’r iawn, gosod cap ar gynnydd i’r dreth gyngor a gorfodi cynghorau i gynnal refferendwm os ydyn nhw’n dymuno cynyddu cyfraddau lleol gan fwy na 5%.”
‘Angen diwygio’r fformiwla’
Ychwanega Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, na all gweinidogion ym Mae Caerdydd “eistedd a gwneud dim” tra bod y cynnydd yn effeithio ar bobol ledled Cymru.
“Oni bai fod gweinidogion yn gweithredu, bydd cyllidebau cynghorau’n parhau i gael eu cydbwyso er colled teuluoedd sy’n cael eu gwasgu’n ariannol ledled Cymru,” meddai.
“Rhaid i fformiwla Llywodraeth Lafur Cymru, sydd wedi dyddio, gael ei diwygio er mwyn rhoi cyfraddau lleol ar seiliau mwy cynaliadwy.”
‘Parchu cyfrifoldeb awdurdodau lleol’
Wrth ymateb i’r galwadau, dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “parchu cyfrifoldeb awdurdodau lleol a heb ddefnyddio pwerau i gapio treth cyngor” ers datganoli.
“Nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi darparu setliad ariannu digonol i Gymru ac mae ein cyllideb y flwyddyn nesaf werth £1.3bn yn llai nag ar yr adeg y cafodd ei gosod, o ganlyniad i chwyddiant,” meddai.
“Er ein bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ail-lunio ein cyllideb yn sylweddol, rydym yn diogelu’r setliad llywodraeth leol craidd trwy ddarparu’r cynnydd o 3.1% i awdurdodau lleol a addawyd y llynedd, gyda chyfanswm cyfraniad cyllid craidd blynyddol o £5.7bn.
“Rydym yn cydnabod bod y setliad yn brin o’r cyllid sydd ei angen i fodloni’r holl bwysau chwyddiant sy’n wynebu gwasanaethau a bod awdurdodau lleol yn wynebu penderfyniadau anodd wrth iddyn nhw osod eu cyllidebau.
“Mae’n bwysig eu bod yn ymgysylltu’n ystyrlon â’u cymunedau lleol wrth iddyn nhw ystyried eu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.”