Mae llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur yn San Steffan dan y lach yn dilyn ei sylwadau am ddatganoli ar BBC Politics Wales dros y penwythnos.
Yn ôl Plaid Cymru, does gan y Blaid Lafur ddim “uchelgais i Gymru”, ac mae hi’n blaid sy’n “fwy rhanedig nag y mae’n hoffi cyfaddef”, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
Daw sylwadau’r pleidiau ar ôl i Jo Stevens, yr aelod seneddol uchaf ei statws yn y Blaid Lafur yng Nghymru, ddweud nad ydyn nhw’n awyddus i sicrhau pwerau datganoledig i’r Senedd dros blismona a’r system gyfiawnder troseddol.
Roedd hi’n ymateb i adroddiad gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, sy’n dweud y dylid datganoli’r pwerau o San Steffan i’r Senedd.
Cefndir
Yn wahanol i’r Alban, lle mae plismona’n cael ei oruchwylio gan Lywodraeth yr Alban, cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn San Steffan ydy plismona yng Nghymru.
Mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn awyddus ers tro i sicrhau’r pwerau, ond mae sylwadau Jo Stevens yn awgrymu gwahaniaeth barn rhwng y blaid yn y ddwy brifddinas.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, gallen nhw ostwng nifer y carcharorion yng Nghymru pe bai ganddyn nhw’r pwerau, gan gyflwyno rhaglenni iechyd meddwl a chefnogaeth i ddefnyddwyr cyffuriau yn hytrach na chyfnodau o garchar.
Roedd datganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder troseddol ymhlith argymhellion y Comisiwn gafodd ei sefydlu i drafod dyfodol cyfansoddiadol Cymru, oedd wedi cyhoeddi eu hadroddiad yr wythnos ddiwethaf.
“Rydym wedi dweud y byddwn yn ymchwilio i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf,” meddai Jo Stevens wrth siarad ar raglen Politics Wales ar y BBC.
“Ond fyddwn ni ddim yn edrych ar ddatganoli plismona a chyfiawnder.
“Byddwn yn canolbwyntio yn yr etholiad nesaf ar y pethau sy’n bwysig i bobol yng Nghymru – tyfu’r economi, creu swyddi newydd, cael biliau rhatach, adeiladu Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n addas ar gyfer y dyfodol, a chwalu’r rhwystrau ar gyfer cyfleoedd i blant a phobol ifanc ledled y wlad.”
‘Negeseuon anghyson’
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, mae’r Blaid Lafur yn San Steffan wastad wedi atal datganoli pellach.
“Ac yn anffodus mae’n ymddangos y bydd hyn yn parhau i fod yn wir am y dyfodol agos,” meddai Jane Dodds, arweinydd y blaid yng Nghymru.
“Mae’r ymyrraeth yma gan Jo Stevens, y llefarydd materion Cymreig, wedi dangos y gallwn ni ddisgwyl rhagor o’r un peth gan Lywodraeth Lafur yn San Steffan – llywodraeth sydd, yn debyg iawn i’w rhagflaenwyr Ceidwadol, yn anfodlon symud y gôl pan ddaw i gynnig mwy o reolaeth dros faterion Cymreig i bobol Cymru.
“Yn syml, nid yw ein system farnwrol bresennol ar y cyd â Lloegr yn gweithio. Sut allwn ni ddisgwyl i San Steffan wneud y penderfyniadau cywir ar anghenion heddluoedd yma yng Nghymru, yn enwedig pan nad oes ganddyn nhw unrhyw ffordd o afael yn y materion go iawn sy’n wynebu cymunedau yn y wlad hon?
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyflwyno eu hunain fel rhai sy’n fodlon ymgymryd â phlismona fel pŵer datganoledig, felly pam nad yw eu cydweithwyr yn San Steffan yn barod i’w cefnogi?
“Negeseuon anghyson pellach gan blaid sy’n fwy rhanedig nag y mae’n hoffi cyfaddef.”
‘Dim uchelgais’
Mae Jo Stevens “eisoes wedi gwrthod un o’i hargymhellion allweddol heb unrhyw ymgysylltiad”, meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
“Rwy’n herio Jo Stevens i gyfiawnhau pam y byddai canlyniadau gwaeth, llai o werth am arian, a diffyg tryloywder ac atebolrwydd er budd pobol Cymru,” meddai.
“Mae’r diffyg uchelgais i Gymru gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig sydd ar ei ffordd i mewn yn syfrdanol.
“Mae’r status quo yn anghynaladwy.
“Ond yr unig addewid gan Lafur i Gymru yw “archwilio” datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf – gan ddiystyru datganoli plismona a chyfiawnder.
“Efallai mai nhw fydd yn ffurfio’r llywodraeth nesaf, ond does gan Lafur ddim uchelgais i Gymru.”