Rhun Dafydd, cadeirydd Cymdeithas y Cymod, sy’n edrych ar drawma rhyfel, a sut mae gwrthdaro a thrais yn effeithio ar unigolion a chymunedau.


Mae’r gwrthdaro sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol ac mewn sawl man arall yn y byd yn peri gofid i bob heddychwr ac mae’n debygol bod y trais am ddwysáu ymhellach. Mae’r angen am gymodi yn amlwg, wrth i farwolaethau a dioddefaint ymysg pobol ddiniwed gynyddu, ond nid yw trawma a ddaw o ryfel mor syml â’r niferoedd sy’n byw a marw. Dyma fewnwelediad a gwir effaith hirdymor rhyfel, a phrawf pam nad ydym yn medru parhau i ddefnyddio gwrthdaro fel ateb i anghydfod.

Mae trawma rhyfel yn medru cael ei achosi gan y canlynol:

  • Tystio rhyfel yn datblygu
  • Profiad ymladd uniongyrchol
  • Gweld pobol yn cael eu clwyfo, eu hanffurfio neu eu lladd
  • Achosi poen neu ladd person arall
  • Rhoi gorchmynion sy’n arwain at boen neu farwolaeth pobol eraill

Mae’n lled wybodus bod canran fawr o filwyr yn dioddef o PTSD o ganlyniad i’r hyn maen nhw wedi’i brofi mewn gwrthdaro, ond mae dros 65% o sifiliaid sydd wedi profi rhyfel yn dioddef rhyw fath o drawma rheolaidd. Po fwyaf mae’r unigolion hynny’n profi gwrthdaro, y mwyaf tebygol yw hi y bydd ganddyn nhw fwy o broblemau iechyd meddwl. Hynny yw, dyw trawma rhyfel ddim yn fater sy’n digwydd yn unigol, mae’n digwydd yn gymunedol ac yn medru dylanwadu ar gymdeithas gyfan. Mae hyn yn ei dro yn medru datblygu i broblemau o radicaleiddio, ac mae’r unigolion sy’n profi trawma rhyfel yn fwy tebygol o ymuno â grwpiau terfysgaeth. Dangosa hyn y cylch dieflig o drais, lle mae gwrthdaro yn bwydo mwy o wrthdaro.

Gall trawma rhyfel hefyd fod yn drawsgenhedlaethol, gyda rhai rhyfeloedd dal i effeithio ar bobol dair cenhedlaeth ar ôl i’r gwrthdaro ddod i ben. Canfuwyd bod yr unigolion hyn yn dioddef o bryder, straen, cywilydd, drwgdybiaeth ac ofn o ganlyniad i’r dylanwad hwnnw. Hynny yw, mae’n bosib bod trawma yn medru cael ei basio i’r genhedlaeth nesaf oherwydd y poen a’r erchyllterau mae pobol yn ei ddioddef o ganlyniad i ryfel.

Un o brif sgil effeithiau rhyfel yw ffoaduriaid, carfan yn ei hun sy’n cael ei effeithio gan sawl lefel o drawma ac iechyd meddwl. Mae’r trawma yn amrywio o ansicrwydd parhaus oherwydd statws cyfreithiol i ddiffyg cefnogaeth gymdeithasol. Yn ôl UNICEF, mae hanner yr holl ffoaduriaid yn blant, ac mae’r trawma maen nhw’n ei wynebu yn fwy hirdymor wrth iddyn nhw brofi diffyg maeth sy’n dylanwadu ar eu datblygiad corfforol. Ceir hefyd trawma o ddeall arferion rhieni a diffyg cefnogaeth sy’n achosi problemau wrth iddyn nhw dyfu’n oedolion.

Dim ond mewnwelediad bach yw hwn i’r trawma mae rhyfel yn ei achosi a’r bobol ddiniwed, ac heddiw mae yna filiynau o enghreifftiau o’r effaith seicolegol a chorfforol mae gwrthdaro yn ei greu. Un peth sy’n sicr yw bod rhaid edrych ar y llwybr o gymodi os nad ydym eisiau i’r trawma hwn barhau.