Bydd y maswr Callum Sheedy yn dychwelyd i Rygbi Caerdydd ar gyfer tymor 2024-25.
Daeth e drwy rengoedd rhanbarth y brifddinas, cyn treulio’i yrfa gyfan hyd yn hyn gyda Bryste.
Bydd e’n cystadlu â Tinus de Beer am y crys rhif 10, a fe yw’r chwaraewr cyntaf drwy’r drysau ers i berchnogion newydd brynu’r rhanbarth.
Dywed Matt Sherratt, prif hyfforddwr Rygbi Caerdydd, fod denu Callum Sheedy atyn nhw’n gam pwysig yn natblygiad y rhanbarth ar gyfer y dyfodol, ac y bydd e’n gaffaeliad o ran bod yn esiampl dda i’r chwaraewyr iau.
Cafodd Sheedy ei addysg yn Corpus Christi, cyn chwarae i Ysgolion Caerdydd a thîm dan 16 Caerdydd (llwybr y de), cyn cael ysgoloriaeth gan Ysgol Millfield.
Dywed ei fod e’n un o drigolion “mabwysiedig” Bryste, ond ei fod e’n “edrych ymlaen yn fawr iawn” at ddychwelyd i Gaerdydd.