Mae cyfraddau llog benthyciad gan Lywodraeth Cymru i Undeb Rygbi Cymru yn “peryglu dyfodol” y gêm, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Wrth holi’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 30), dywedodd Andrew RT Davies fod cadeirydd Undeb Rygbi Cymru wedi dweud wrth Bwyllgor Diwylliant y Senedd fod y benthyciadau’n fwrn ar eu cyllid.

Yn ôl Andrew RT Davies, mae’r cyfraddau llog ar fenthyciadau i undebau rygbi eraill yng ngwledydd Prydain “lawer is”.

Gofynnodd a fyddai Llywodraeth Cymru’n ymateb i gais gan Undeb Rygbi Cymru i gydweithio ar ailstrwythuro’r benthyciadau fel nad yw’n fwrn ar y gêm ar lawr gwlad yng Nghymru.

Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru gymryd benthyciad Covid-19 i fusnesau mawr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod cyfnod y pandemig, ond gan nad oedden nhw’n gallu ad-dalu’r benthyciad aethon nhw at Lywodraeth Cymru.

Camodd Llywodraeth Cymru i’r adwy fel “yr opsiwn olaf” i fenthyg arian, ac fe wnaethon nhw fabwysiadau amodau’r benthyciad gwreiddiol.

‘Cyfyngu ar elfennau o’r gêm’

Dewis Undeb Rygbi Cymru oedd cymryd y benthyciad hwnnw, meddai Mark Drakeford.

“Dw i’n derbyn hynny, a fyddai URC ddim yn gwadu chwaith, ond mae pwysau gwirioneddol nawr ac yn amlwg bydd rhaid iddyn nhw – a dw i’n meddwl mai geiriau’r cadeirydd o flaen y pwyllgor diwylliant oedd defnyddio ‘cynllun B’, sydd heb ei benderfynu eto, ond bydd yn golygu cyfyngu ar elfennau o’r gêm rydyn ni eisiau’u gweld yn tyfu, fel ehangu’r gêm ar lawr gwlad a gallu ein timau proffesiynol, ein rhanbarthau, i fod yn gystadleuol,” meddai Andrew RT Davies.

Dywed hefyd ei fod ar ddeall bod y cyfraddau llog yn uwch wedi i’r benthyciad gael ei symud at Lywodraeth Cymru.

“Er fy mod i’n deall eu bod nhw wedi mynd mewn i hynny o’u gwirfodd ar y pryd a bod yna gymhlethdodau wrth gyflenwi’r benthyciad, mae gennym ni dîm newydd yn llywio Undeb Rygbi Cymru nawr, yn dod allan o gyfnod anodd,” meddai.

“Fyddai dim yn rhoi mwy o hyder yn y gêm yma yng Nghymru na pharodrwydd Llywodraeth Cymru i ymgysylltu a chefnogi ailstrwythuro [y benthyciad].”

‘Barod i ymgysylltu’

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford ei fod yntau hefyd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y gêm ar lawr gwlad, ynghyd â gêm y merched, y rhanbarthau a chlybiau i bobol ag anableddau.

“Dw i’n hapus i ddweud, wrth gwrs, ein bod ni wastad yn barod i ymgysylltu ag Undeb Rygbi Cymru i weld os oes rhywbeth mae modd ei wneud,” meddai.

“Dw i ddim yn credu y byddai’r telerau mae Llywodraeth Cymru’n darparu’r arian iddyn nhw ar gael i Undeb Rygbi Cymru yn fasnachol, felly maen nhw dan fantais beth bynnag, ond dyw hynny ddim yn golygu nad ydyn ni’n barod i drafod gyda nhw a gweld a oes modd gwneud rhywbeth arall.”

‘Peryglu dyfodol rygbi’

Yn dilyn y cyfarfod yn y Senedd, dywed Andrew RT Davies fod y cyfraddau llog yn “peryglu dyfodol rygbi Cymru”.

“Fe wnaeth Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru amlygu natur andwyol y llog ar eu benthyciad, sy’n rhoi pwysau ar rygbi llawr gwlad,” meddai.

“Dylai Llywodraeth Lafur Cymru ysgafnhau eu baich ar y rhanbarthau drwy sicrhau bod y llog ar eu benthyciad yr un fath â chytundebau Lloegr gyda chlybiau’r Gynghrair.”