Ar drothwy Dydd Miwsig Cymru ddydd Gwener (Chwefror 9), mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr chwarae o’r caneuon Cymraeg mwyaf poblogaidd ar Spotify.
Ar y diwrnod, bydd cerddoriaeth Gymraeg o bob math yn cael ei dathlu, gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad.
Ac mae Trafnidiaeth Cymru’n annog pobol i wrando ar y caneuon ar y rhestr wrth iddyn nhw deithio ar y diwrnod.
Mae’r rhestr yn croesi sawl genre a chenhedlaeth o gerddoriaeth.
Ar frig y rhestr mae ‘Gwenwyn’ gan Alffa, sydd wedi cael ei chlywed ar Spotify fwy na 3.6m o weithiau.
Roedd hon ar eu halbwm cyntaf yn 2018.
Yn ail ar y rhestr mae’r anthem answyddogol, ‘Yma O Hyd’ gan Dafydd Iwan, a hithau wedi cael adfywiad o ganlyniad i lwyddiant tîm pêl-droed Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae hi wedi cael ei chwarae dros 2.7m o weithiau.
‘Cyfle hyfryd i ddathlu cyfoeth ac amrywiaeth cerddoriaeth Gymraeg’
“Mae Dydd Miwsig Cymru’n gyfle hyfryd i ddathlu cyfoeth ac amrywiaeth cerddoriaeth Gymraeg – rhywbeth sydd wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn Nhrafnidiaeth Cymru,” meddai Lowri Joyce, Arweinydd Strategaeth Gymraeg Trafnidiaeth Cymru.
“Mae cerddoriaeth Gymraeg yn hanfodol er mwyn cynnal hunaniaeth ddiwylliannol, meithrin ymdeimlad o gymuned, a dathlu treftadaeth gyfoethog Cymru.
“Mae’n gyfrwng ar gyfer adrodd straeon, mynegi emosiwn, a chysylltu pobol ar draws y cenedlaethau.
“Trwy ei genres a’i harddulliau amrywiol, mae creu a gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn cadw traddodiadau’n fyw wrth ysbrydoli creadigrwydd a balchder.
“Hefyd, drwy ychwanegu ychydig o’ch ffefrynnau at eich rhestr chwarae eich hun, mae’n cynnig ffordd wahanol o fwynhau eich taith!”
Y rhestr
Mae Trafnidiaeth Cymru’n annog pobol i ychwanegu’r caneuon canlynol at eu rhestr chwarae:
‘Gwenwyn’, Alffa (3,668,415 o wrandawiadau)
‘Yma O Hyd’, Dafydd Iwan (2,715,450)
‘Tir Ha mor’, Gwenno (2,289,509)
‘Sebona Fi’, Yws Gwynedd (1,125,322)
‘Fel i Fod’, Adwaith (1,080,113)
‘Llwytha’r Gwn’, Candelas (560,267)
‘Tŷ Ar y Mynydd’, Maharishi (461,675)
‘Cwîn’, Gwilym (390,541)
‘Rebal Wicend’, Bryn Fôn (360,748)
‘Gwreiddiau’, Sŵnami (339,416)