Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi cyfres o gigs mewn tafarnau cymunedol ar Ddydd Miwsig Cymru heddiw (dydd Gwener, Chwefror 9).

Mae cerddoriaeth yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd a mwynhau yn Gymraeg, yn ôl Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, yn Llywodraeth Cymru.

“Mae tafarndai cymunedol yn fusnesau cymdeithasol sydd wedi eu gwreiddio yn ein cymunedau ni,” meddai.

“Maen nhw’n creu swyddi yn ogystal â chyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd i gymdeithasu a defnyddio’r Gymraeg.

“Drwy’r cynllun Grantiau Bach Prosiect Perthyn, mae Llywodraeth Cymru’n rhoi cefnogaeth i grwpiau cymunedol sefydlu tafarndai cydweithredol newydd, ac rwy’n falch iawn o’r cyfle i roi hwb i’r mentrau cydweithredol hyn eleni drwy noddi gigs ar Ddydd Miwsig Cymru.

“Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddathliad gwych o rym a phwysigrwydd iaith a cherddoriaeth.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i i ni i gyd, ac mae digwyddiadau fel rhain yn ffordd wych i bobol gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg, i glywed yr iaith mewn lleoliad anffurfiol ac i hybu ei defnydd yn ein cymunedau.”

Morgan Elwy yn Rhuthun

Un dafarn gymunedol sy’n cynnal gig – gyda’r cerddor poblogaidd Morgan Elwy – yw tafarn Glan Llyn yng Nghlawddnewydd ger Rhuthun.

“Mae’n bwysig iawn cynnal digwyddiadau Cymraeg ar gyfer pobol yn yr ardal yma, ac yn enwedig i bobol ifanc,” meddai Eryl Williams o Fenter Gymunedol Clawddnewydd, Clocaenog a Derwyn, sy’n trefnu’r gig.

“Mae’n ffordd dda iddyn nhw gael cyfle i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg, a defnyddio’r iaith y tu allan i’r ysgol.

“Y gobaith yw y bydd Dydd Miwsig Cymru’n rhoi blas iddyn nhw ar gerddoriaeth Gymraeg fel y bydd eu diddordeb yn parhau yn y dyfodol.”

Y gigs sy’n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru

Dydd Gwener (Chwefror 9):

Mari Mathias, Gwesty’r Llew Gwyn, Cerrigydrudion, Sir Conwy

Dafydd Iwan, Saith Seren, Wrecsam

Meryl Elin, Iorwerth Arms, Bryngwran, Ynys Môn

Huw Chiswell a Rhiannon O’Connor, Tŷ Tawe, Abertawe

Phil Gas a’r Band, Pengwern, Llan Ffestiniog, Gwynedd

Elis Derby, Tafarn Yr Heliwr, Nefyn, Gwynedd

Kim Hon, Pys Melyn, Dafydd Owain, Cyn Cwsg, Parisa Fouladi, Dadleoli & Taran, Clwb Ifor Bach, Caerdydd

Moniars, Tafarn y Fic, Llithfaen, Gwynedd

Endaf, Baby Brave, Eadyth, Ffenest, The Parish, Wrecsam

Danielle Lewis, Tafarn y Vale, Ystrad Aeron, Ceredigion

Paid Gofyn, Clwb y Bont, Pontypridd

Sgwrs efo Barry Archie Jones o’r band Celt, Ty’n Llan, Llandwrog, Gwynedd

Dydd Sadwrn, Chwefror 10:

Morgan Elwy, Glan Llyn, Clawddnewydd, Sir Ddinbych

Gai Toms, Tafarn y Plu, Llanystumdwy, Gwynedd

Gwilym Bowen Rhys, Pengwerrn, Llan Ffestiniog, Gwynedd

Gethin a Glesni, Ty’n Llan, Llandwrog, Gwynedd

Dydd Sadwrn, Chwefror 17:

Ciwb ac Alis Glyn, Tafarn Yr Eagles, Llanuwchllyn, Gwynedd