Ar Ddydd Miwsig Cymru heddiw (dydd Gwener, Chwefror 9), mae hyrwyddwr cerddoriaeth Gymraeg yn annog pobol i gefnogi artistiaid a lleoliadau gigs annibynnol a “gwneud ymdrech i brynu” yn hytrach na ffrydio.
Digwyddiad blynyddol sy’n ymroddedig i bob math o gerddoriaeth Gymraeg ydy Dydd Miwsig Cymru.
Cafodd ei sefydlu yn 2013, a’i fwriad yw cyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i gynulleidfa newydd gan ddathlu’r gerddoriaeth a’r artistiaid.
Bydd digwyddiadau byw wrth galon y diwrnod unwaith eto eleni, gyda gigs ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys yn Wrecsam, Casnewydd, Abertawe a Chaerdydd.
Yn ôl hyrwyddwr cerddoriaeth Gymraeg Clwb Ifor Bach yn y brifddinas, mae Dydd Miwsig Cymru’n gyfle i roi platfform newydd i gerddoriaeth Gymraeg, yn ogystal â chefnogi artistiaid a lleoliadau annibynnol.
@golwg360 Wrth edrych ymlaen at @Dydd Miwsig Cymru yfory, fe aeth Golwg360 i gyfweld â Tomos Lynch, Hyrwyddwr Cerddoriaeth Cymraeg @Clwb Ifor Bach , a wnaeth sôn mwy am bwysigrwydd y diwrnod i fiwsig yng Nghymru ! 🏴🎧 Mae gan Clwb Ifor gig arbennig Dydd Miwsig Cymru ar nos Wener, llawn enwau mawr ac artistiaid lleol gydag amrywiaeth o steiliau i gyd mewn un cawl o gerddoriaeth! 🎸 Sut fyddwch chi’n dathlu? #dyddmiwsigcymru #miwsig #welshmusic #cymru
‘Ffenest siop i bobol o’r tu allan gael blas’
Mae Clwb Ifor Bach wedi paratoi gwledd o wyth o artistiaid i ddathlu Dydd Miwsig Cymru, wedi’u gwasgaru ar draws dau lwyfan.
Ymysg yr artistiaid fydd yn perfformio mae Kim Hon, Pys Melyn, Cyn Cwsg, Dafydd Owain a Parisa Fouladi.
Bydd y gig yn dechrau am 6 o’r gloch, gyda pharti Filthy Gorgeous i ddilyn ar ôl y gig gyda DJ Dilys.
Maen nhw’n gobeithio y bydd yn gyfle i arddangos yr hyn sydd gan y gerddoriaeth a’r lleoliadau gigs yng Nghymru i’w gynnig.
“Dw i’n meddwl bod Dydd Miwsig Cymru erbyn hyn yn ddiwrnod, os nad wythnos, o roi cyfle a phlatfform i gerddoriaeth Gymraeg mewn llefydd efallai dydy o ddim yn cael ei weld ar gyfryngau ar lefel Brydeinig,” meddai Tomos Lynch wrth golwg360.
“Felly mae o’n gyfle i ddathlu a gwthio miwsig Cymraeg i bob math o lefydd gwahanol dw i’n meddwl.
“Dw i’n meddwl fod o’n dda i fandiau ac artistiaid a venues fel yma, achos mae o’n cynnig ffenest siop i be’ rydan ni’n gwneud drwy gydol y flwyddyn a’r holl fiwsig mae’r bandiau yma wedi bod yn gweithio arno trwy gydol y flwyddyn dros Gymru.
“Yn ein sioe ni yma ddydd Gwener, mae o’n lein-yp mawr ac mae o’n lein-yp eithaf amrywiol, i gyd o wahanol steiliau i gyd mewn un cawl.
“Mae o fel ryw ffenest siop i bobol o’r tu allan gael blas a chael gweld yr holl bethau anhygoel sy’n mynd ymlaen yma yng Nghymru.”
Ers sefydlu’r diwrnod, mae Tomos Lynch wedi gweld y dathliadau’n datblygu.
Ond y ffordd orau o ddathlu yw trwy fynd i gig a pharhau i gefnogi drwy gydol y flwyddyn, meddai.
“Dw i’n gweld pobol yn dathlu mewn lot o ffyrdd gwahanol o wisgo t-shirts artistiaid, oedden ni’n gweld coasters Dydd Miwsig Cymru mewn tafarndai lleol, ond dw i’n meddwl [mai] y ffordd orau ydy jest rhannu miwsig, mynd i gigs a chario ymlaen i wneud drwy gydol y flwyddyn.”
‘Gwneud byd o wahaniaeth’
Yn ôl Tomos Lynch, gall prynu cerddoriaeth a nwyddau gan artistiaid, yn hytrach na ffrydio, wneud “byd o wahaniaeth”.
“O ran mynd ati i gefnogi artistiaid, labeli a venues annibynnol, dw i’n meddwl yn yr oes yma, yn fwy nag erioed, jest gwnewch ymdrech i brynu pethau…” meddai.
“I brynu’r nwyddau, prynu’r CD oddi ar blatfformau fel BandCamp achos mae hynna yn gwneud byd o wahaniaeth, o ran maen nhw wedyn yn gallu mynd yn ôl i greu mwy o stwff a rhoi mwy o gigs ymlaen – dw i’n meddwl [mai] dyna’r ffordd orau i gefnogi.”