Aelod ifanc o Blaid Cymru sydd wedi’i ddewis yn ymgeisydd ar gyfer etholiad nesaf San Steffan yn etholaeth newydd Rhondda ac Ogwr.
Owen Cutler fydd yr ymgeisydd ar gyfer y sedd, ac mae’n gobeithio denu cefnogwyr newydd at Blaid Cymru, yn enwedig o blith pobol ifanc.
Bydd rhaid i’r etholiad cyffredinol nesaf gael ei gynnal erbyn mis Ionawr nesaf, ond dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb gyhoeddi pa bryd eto.
Ei flaenoriaethau fel ymgeisydd fydd yr argyfwng costau byw a chreu dyfodol gwyrdd, gyda chyfleoedd am swyddi da.
Dywed y peiriannydd o bentref Penrhiwfer yn y Rhondda ei fod eisiau tynnu sylw at y setliad ariannol “annheg” mae Cymru’n ei dderbyn gan San Steffan hefyd.
‘Dros gymunedau cryfach a Chymru well’
“Mae’n fraint bod aelodau’r Blaid yn Rhondda ac Ogwr wedi ymddiried ynof i i gyflwyno neges gadarnhaol ein plaid dros gymunedau cryfach a Chymru well,” meddai Owen Cutler.
“Mae cymoedd Rhondda ac Ogwr yn cynnwys cymunedau sydd â’r lefelau tlodi uchaf. Mae gormod o bobl yma sydd wedi profi camwahaniaethu ac allgáu.
“Gwŷr Llafur sydd wedi cynrychioli’r cymoedd hyn ers dros ganrif. Llafur sy’n rheoli’r cyngor ac yn ein cynrychioli ni yn y Senedd. A chanlyniad hyn? Seren aur yn y gynghrair dlodi.
“O’r bobol sy’n cael trafferth ymdopi â’r argyfwng costau byw, yn arbennig y bobl ifanc hynny sy’n methu dod o hyd i gartref teidi na swydd leol, i’r rheiny sy’n mynd i ddyled er mwyn derbyn addysg – mae cymaint o bobl yn teimlo’u bod yn cael eu hanwybyddu a’u gadael ar ôl gan y sefydliad gwleidyddol.
“Fel rhywun sydd wedi byw mewn tŷ cyngor, a rhywun sy’n deall gwerth prydau ysgol am ddim, rwy’n ymwybodol pa mor anodd gall bywyd bod dydd fod.
“Does dim digon o’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau ar ein rhan yn dod o gefndiroedd tebyg i ni.”
‘Cymru cael ei thwyllo’n rhacs’
Wrth siarad wedi’r cyfarfod i’w ddewis yng Nghlwb Rygbi Ystrad Rhondda dros y penwythnos, dywedodd Owen Cutler fod y Cymry’n cael eu “twyllo’n rhacs” gan HS2 ac y gallai’r biliynau o bunnoedd fyddai wedi dod i Gymru pe bai wedi cael ei ddynodi’n brosiect ar gyfer Lloegr yn unig fod wedi cael ei fuddsoddi yn yr economi a’r gwasanaethau iechyd.
“Rydw i hefyd eisiau helpu pobl i ailgysylltu â gwleidyddiaeth. Gyda’r fath lygredd a chymaint o wleidyddion ynghlwm â sgandalau cyllid ac yn elwa’n ariannol o’u swyddi – o Brif Weinidog newydd Cymru i ASau di-ri yn San Steffan – mae gwir angen sefyll yn gadarn yn erbyn llygredd gwleidyddol os ydyn ni am ail-adeiladu’n democratiaeth fregus,” meddai.
“Mae adroddiad diweddar y Comisiwn ar yr opsiynau cyfansoddiadol i Gymru yn y dyfodol yn glir iawn am yr argyfwng sy’n wynebu ein democratiaeth.
“Gall pob unigolyn sydd â phleidlais sefyll dros ddemocratiaeth a dyfodol gwell i’r cymoedd drwy bleidleisio dros Blaid Cymru yn yr etholiad hwn.”
Un sydd wedi rhoi ei chefnogaeth iddo ydy Leanne Wood, cyn-Aelod o’r Senedd y Rhondda, sy’n dweud ei fod yn “ddeallus, meddylgar ac yn garedig”.
“Bydd yn wir gaffaeliad – yn llais ac yn eiriolwr dros bobol Rhondda ac Ogwr – ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag e i godi llais dros rheiny sy’n cael trafferth ymdopi,” meddai.