A hithau’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae hyfforddwr personol wedi bod yn rhannu pwysigrwydd thema eleni – sef symud i helpu gyda iechyd meddwl.
Pwrpas Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, sy’n cael ei chynnal eleni rhwng Mai 13 ac 19, yw annog pobol i siarad am iechyd meddwl, a chodi ymwybyddiaeth o salwch meddwl.
Bob blwyddyn, bydd un ym mhob pedwar person yn cael problem iechyd meddwl.
Mae dros ddwy filiwn o bobol yn aros am wasanaethau iechyd meddwl y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac ers 2017 mae nifer y bobol ifanc sy’n cael trafferth â’u hiechyd meddwl bron â dyblu.
Ond mae gwyddonwyr wedi profi bod ymarfer corff yn dda i’r meddwl, yn ogystal â’r corff.
Mae symud y corff yn rhyddhau cemegau yn yr ymennydd sy’n gwneud i rywun deimlo’n dda, gan roi hwb i’r hunan-barch a’r gallu i ganolbwyntio, yn ogystal â gwneud i rywun gysgu’n dda a theimlo’n well.
Yn ôl Elin Wyn Williams, ddechreuodd ei busnes hyfforddi personol, Winning With A Y, yng Nghaerdydd yn 2020, mae’n bwysig sylweddoli bod ymarfer corff yn helpu yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol.
‘Mae symud y corff yn iechyd’
Yn ôl Elin Wyn Williams, mae llwyth o fuddion i symud y corff, gan gynnwys adeiladu cryfder a fydd yn emosiynol ac yn feddyliol.
“Fi’n credu bod e’n bwysig tynnu sylw at faint mae symud eich corff yn gallu eich helpu, nid yn unig yn gorfforol, ond yn feddyliol ac yn emosiynol hefyd,” meddai wrth golwg360.
“Mae shwd gymaint o bethau da yn gallu digwydd pan ni’n symud y corff a fi’n meddwl mai dyna yw nod ymarfer corff a symud y corff.
“Mae lot o bobol yn meddwl am symud y corff ac yn meddwl bod hynny’n golygu ffitrwydd ond dim dyna beth yw e.
“Mae symud y corff yn fwy na hynny, mae’n iechyd.
“Ac wrth symud y corff, chi’n gallu gofalu ar ôl eich iechyd yn gyfan gwbl.
“Fi wastad yn dweud wrth bobol: ‘Petai pilsen ar gael yn [siop] Boots fyddai’n gallu rhoi’r un elwa â beth mae symud y corff yn gallu ei rhoi i chi, dw i’n siŵr y byddai pawb yn ei brynu’.
“Mae’n ffordd i gysylltu gyda’ch hunain, cysylltu â phobol eraill, ac adeiladu, nid yn unig cryfder yn gorfforol, ond cryfder a ffydd yn emosiynol a meddyliol hefyd.”
Mynd llaw yn llaw â dulliau mwy traddodiadol
Yn ôl Elin Wyn Williams, dydy pobol ddim yn tueddu i sylwi ar fuddion meddyliol symud y corff. Mae’r ‘Y’ yn enw’r busnes, Winning With A Y, yn cyfeirio at y rheswm pam bod pobol eisiau ymarfer corff.
“Bydda i wastad yn gofyn iddyn nhw am eu rheswm pam,” meddai.
“Mae lot o gleientiaid yn rhannu gyda fi mai’r rheswm maen nhw eisiau gweithio gyda hyfforddwr personol yw oherwydd eu bod nhw wedi colli hyder yn eu hunain, eisiau ymddiried mwy yn eu hunain neu deimlo’n hapusach ym mhwy ydyn nhw.
“Beth chi’n gweld wedyn yw, ie, maen nhw’n dod ymlaen yn gorfforol ac yn adeiladu cryfder, ond beth sydd bwysicaf i fi yw gweld y gwahaniaeth yn eu hunan hyder nhw.
“Maen nhw’n gallu ymddiried lot fwy yn eu hunain achos eu bod nhw mor gyson.
“Os mae rhywun yn gofalu am eu hunain yn gorfforol drwy symud, mae hynny wedyn yn estyn allan i elfennau eraill o’u bywydau nhw.
“Felly maen nhw’n dechrau ymddiried yn eu hunain a’u gwaith, gyda’u ffrindiau ac elfennau eraill o’u bywydau nhw.
“Mae o’n lle mor dda i ddechrau.
“Ceisiwch symud eich cyrff, fi’n gwybod y bydd yn eich helpu chi i deimlo’n well.”
‘Dechreuwch yn fach’
Ond sut mae cael y cymhelliant yma i ddechrau?
“Dechrau,” meddai Elin Wyn Williams.
“Mae lot o bobol yn meddwl: “Shwd i fi fod i ffeindio’r cymhelliant?’ ac i fi, does dim shwd beth â chymhelliant.
“Beth sydd yn bodoli yw dechrau.
“Jest gwnewch rywbeth bach a gall rhywbeth bach bod yn cerdded am bum munud dros yr awr cinio.
“Dros amser, mae hwnna’n adeiladu lan.
“Bydd hwn yn adeiladu o fod yn unwaith yr wythnos i ddwywaith i deirgwaith.
“Mae lot o bobol yn rhoi gormod o bwysau ar eu hunain ac yn gosod nod o fynd i’r gym, cael hyfforddwr personol a rhedeg marathon.
“Fi wastad yn dweud: ‘Dechreuwch yn fach’, achos mae hynny’n ei wneud yn haws i gadw cysondeb.”