Fydd y Blaid Lafur ddim yn cadw rhoddion ariannol Vaughan Gething.

Fe fu Prif Weinidog Cymru dan y lach ers iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi derbyn £200,000 gan Dauson, cwmni dyn gafwyd yn euog yn y gorffennol o droseddau amgylcheddol.

Roedd £31,600 yn weddill o’r £251,600 roedd e wedi’i godi yn ystod ei ymgyrch i arwain y blaid.

Roedd nifer o fewn y Blaid Lafur wedi bod yn ei rybuddio na ddylai dderbyn yr arian gan ffynhonnell amheus.

Bellach, maen nhw’n dweud y bydd yr arian yn mynd at achosion da, yn unol â chydsyniad pwyllgor gwaith Llafur Cymru.

Yn ôl rheolau’r blaid, fe allai’r arian fod wedi mynd i’r Blaid Lafur ganolog yn Llundain.

Ond bellach, mae disgwyl i’r pwyllgor gwaith yng Nghymru gymeradwyo’r penderfyniad i’w roi i elusennau amrywiol.

Plaid Cymru’n dod â’r Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru i ben ar unwaith

Dywed Arweinydd Plaid Cymru ei fod yn “bryderus iawn” bod Vaughan Gething wedi methu ag ad-dalu’r rhodd o £200,000 dderbyniodd yn y ras arweinyddol

Plaid Cymru’n galw am “dryloywder llwyr” gan Vaughan Gething

Rhys Owen

Mae Heledd Fychan yn galw ar y Prif Weinidog i ateb cwestiynau am roddion a diswyddo Hannah Blythyn

Veezu: Vaughan Gething dan y lach eto tros roddion gwleidyddol

Mae’r cwmni tacsis yn wynebu beirniadaeth yn sgil honiadau o amodau gwaith gwael a gwahaniaethu yn erbyn pobol ag anableddau