Byddai toriad i gyllideb Comisiynydd y Gymraeg yn “ergyd pellach” i’r iaith, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.
Mae Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn wynebu colli staff yn sgil toriad o 5% yn eu cyllideb gan Lywodraeth Cymru.
Bydd pob un o gomisiynwyr y Llywodraeth – y Gymraeg, Plant, Pobol Hŷn a Chenedlaethau’r Dyfodol – yn wynebu toriad cyllid o 5%.
Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, mae’r swyddfa wedi cychwyn ar broses allai gynnwys sawl cam, gan gynnwys cynnig cynllun ymadael gwirfoddol.
“Mae’r toriadau diweddar i gyllidebau’r Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru yn effeithio ar y Gymraeg a chymunedau Cymraeg, byddai toriad i gyllideb Comisiynydd y Gymraeg yn ergyd pellach i’r iaith,” meddai Siân Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith.
“Byddai hefyd yn mynd yn erbyn addewid y Llywodraeth y llynedd y byddai cyllideb y Gymraeg yn cael ei warchod yn llawn.
“Galwn eto ar y Prif Weinidog i weithredu ymrwymiadau ymarferol at y Gymraeg a’r polisi o filiwn o siaradwyr Cymraeg, i sicrhau ei fod yn fwy na slogan gwag.”
‘Ystyried ein strwythur staffio’
Dywed Efa Gruffudd Jones eu bod nhw, fel sefydliad cyhoeddus, yn awyddus i wneud y defnydd “gorau a mwyaf effeithiol o’r adnoddau” sydd ganddyn nhw.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf fe wnaethom adnabod arbedion sylweddol drwy ail edrych ar gostau swyddfeydd ac adleoli er mwyn sicrhau na fyddai ein gwaith craidd yn cael ei effeithio wrth i gostau gynyddu,” meddai.
“Yn sgil toriad o 5% yn ein cyllideb eleni, wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae unrhyw arbedion sydd angen eu gwneud yn golygu ystyried ein strwythur staffio.
“Rydym wedi cychwyn ar broses allai gynnwys sawl cam gan gynnwys cynnig cynllun ymadael gwirfoddol ac rydym yn ymgynghori gyda staff ac undebau wrth fynd drwy’r camau hynny.”