Mae pwyllgor wedi clywed bod gofal milfeddygol yn anfforddiadwy i nifer o berchnogion anifeiliaid yng Nghymru, a hynny oherwydd cynnydd “gwarthus” mewn prisiau o ganlyniad i farusrwydd corfforaethol.

Dywed Caroline Allen, Prif Swyddog Milfeddygol RSPCA Cymru, fod arolwg wedi canfod fod hanner perchnogion anifeiliaid Cymru’n gofidio na fyddan nhw’n gallu fforddio biliau milfeddygol.

Dywedodd wrth Bwyllgor Deisebau’r Senedd ei fod yn gyfnod heriol i’r sector achub anifeiliaid oherwydd chwyddaint a’r argyfwng costau byw ehangach.

Dywed Dr Caroline Allen, oedd yn filfeddyg am ugain mlynedd cyn ymuno â’r RSPCA, fod 78% o berchnogion anifeiliaid wedi adrodd am gynnydd mewn biliau milfeddygol, a bod 90% yn gofidio am allu bwydo’u hanifeiliaid.

Pan gymhwysodd hi, meddai, roedd nifer o filfeddygfeydd dan berchnogaeth milfeddygon ac wedi’u gwreiddio yn y gymuned, ond ers hynny mae’r rhan fwyaf wedi cael eu prynu gan fusnesau mawr.

‘Gwarthus’

Wrth alw am ddiwygio’r hen Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol 1966, sydd bellach wedi dyddio, dywedodd Dr Caroline Allen y gall milfeddygon gael eu dwyn i gyfrif o dan y gyfraith, ond nad yw’r un yn wir am endidau corfforaethol.

Dywedodd y bu’n rhaid i’r RSPCA dynnu gwasanaethau uniongyrchol i’r cyhoedd yn ôl er mwyn canolbwyntio ar eu rôl graidd, sef helpu anifeiliaid sy’n dioddef o ganlyniad i esgeulustod a chreulondeb.

Fe wnaeth Carlie Power, ar ran elusen Cats Matter, ddisgrifio’r cynnydd mewn prisiau fel un “gwarthus”, gan feirniadu’r “cynnydd barus parhaus mewn elw”.

Wrth roi tystiolaeth i ymchwiliad ar gorfforaethau’n cymryd drosodd yn y proffesiwn milfeddygaeth, dywedodd Carlie Power wrth Aelodau’r Senedd fod yn rhaid iddi dalu £62 am werth tridiau o hylif llygaid i’w chath.

Dywedodd ei bod hi wedi costio £52 i gael sbaddu un o’i chathod, Dolly, saith mlynedd yn ôl, ond yn ddiweddar aeth hi â chath arall, Nix, a chael bil o £159, sy’n gynnydd dros 200%.

‘Erchyll’

Rhybuddiodd Carlie Power, sydd â phum cath, na all perchnogion cyfrifol fforddio cael sbaddu eu hanifeiliaid, sy’n rhoi mwy o bwysau fyth ar ganolfannau gwarchod anifeiliaid.

Tynnodd hi sylw at erthygl yn y Daily Mirror ynghylch milfeddygfeydd yn Nhwrci sy’n cynnig triniaethau rhad o ganlyniad i gostau cynyddol yn y Deyrnas Unedig.

Rhybuddiodd Dr Caroline Allen y gallai hyn arwain at “broblemau lles erchyll”.

Fe wnaeth Peredur Owen Griffiths, sydd â dwy gath o’r enw Treacle a Marmalade ac a oedd unwaith yn dymuno bod yn filfeddyg, ofyn i dystion sut mae’r proffesiwn wedi newid dros y 25 mlynedd diwethaf.

Dywedodd Sue Paterson, llywydd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol, wrth y gwleidydd o Blaid Cymru mai strwythur milfeddygfeydd, cyfleusterau, gweithlu ac addysg yw’r pedwar newid mawr.

Dywedodd fod 41% o 351 milfeddygfa Cymru’n gorfforaethol, gydag oddeutu 150 ohonyn nhw dan berchnogaeth y “saith mawr”, sy’n is nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig.

‘Twll enfawr’

Rhybuddiodd Dr Sue Paterson na all y Coleg Brenhinol reoleiddio milfeddygfeydd.

“Allwn ni ddim ond rheoleiddio milfeddygon proffesiynol – mae hwnnw’n dwll mawr yn y broses reoleiddio,” meddai.

Fe wnaeth Julia Mewes, oedd wedi sefydlu The Mewes Vets fel milfeddygfa annibynnol 28 mlynedd yn ôl, godi pryderon ynghylch milfeddygon eraill yn gweithio ar gomisiwn, gan ddweud nad yw hi’n gosod targedau ariannol.

Rhybuddiodd fod hyn wedi achosi pryder, amgylchedd amhleserus a chystadleuaeth rhwng cydweithwyr, gan wobrwyo’r goreuon wrth werthu yn hytrach na’r rhai gorau am eu gofal.

Fe wnaeth Jack Sargeant, cadeirydd Llafur y pwyllgor sydd â sbaniel Cavalier King Charles o’r enw Coco, dynnu sylw at bryderon yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ynghylch y sector.

Fe wnaeth Peter Fox, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Fynwy fu’n ffermwr ers 30 mlynedd, rybuddio rhag gelyniaethu’r sector preifat, gan dynnu sylw at ddatblygiadau positif o ran triniaethau.

‘Bron yn amhosib’

Cafodd yr ymchwiliad byr ei ysgogi gan ddeiseb â 308 o enwau arni gafodd ei chyflwyno gan yr ymgyrchydd Linda Joyce-Jones, oedd wedi rhybuddio bod corfforaethau wedi arwain at ganlyniadau dinistriol.

Eglurodd fod newid yn y gyfraith yn 1999 wedi galluogi milfeddygfeydd i fod dan berchnogaeth pobol ac eithrio milfeddygon cymwys, gan fraenaru’r tir ar gyfer busnesau mawr.

“Mewn nifer o rannau o Gymru, mae hi bron yn amhosib dod o hyd i filfeddygfa annibynnol,” meddai, gan ddisgrifio’r proffesiwn fel un sydd bron yn amhosib ei adnabod bellach.

Dywedodd fod corfforaethau hefyd yn berchen ar labordai, cwmnïau cyffuriau, ac amlosgfeydd anifeiliaid, yn ogystal â bod â chyfrannau mewn nifer o fusnesau bwyd anifeiliaid.

“Mae’r fath fonopoli yn gwneud presenoldeb yr ychydig filfeddygfeydd annibynnol bron yn anghynaladwy,” meddai.