Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi bod cais cynllunio i godi adeilad newydd ar gyfer ysgol bob oed ym Machynlleth wedi cael ei gyflwyno.
Bydd Cyngor Sir Powys yn adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen fel rhan o’i raglen Trawsnewid Addysg.
Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn trawsnewid o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn ysgol Gymraeg.
Caiff yr ysgol newydd, gyda lle i 540 o ddisgyblion, ei hadeiladu ar safle uwchradd Ysgol Bro Hyddgen i ddisodli’r adeiladau cynradd ac uwchradd presennol.
Mae disgwyl i’r ysgol newydd agor i ddisgyblion yn 2027.
Yr ysgol
Gydag Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 ar y gorwel, mae cyflwyno’r cais yn garreg filltir bwysig o ran y prosiect, a bydd yn helpu’r Cyngor i gyrraedd eu hymrwymiadau o safbwynt y Cynllun Strategol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg a nodau’r Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys.
Bydd yr adeilad newydd yn cael ei ariannu drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, fydd yn talu 65% o gostau’r prosiect, gyda’r Cyngor yn ariannu’r 35% arall.
Ar ôl ei gwblhau, bydd yr adeilad newydd yn darparu cyfleusterau dechrau’n deg a blynyddoedd cynnar, yn rhan o leoliad yr ysgol gynradd, a darpariaeth uwchradd gydag addysg ôl-16.
Yn ogystal, bydd y cyfleusterau’n cynnwys canolfan anghenion dysgu ychwanegol, darpariaeth lles, ynghyd ag ystafell gymunedol a chae chwarae pob tywydd.
Bydd gan yr adeilad nodweddion amgylcheddol “rhagorol”, meddai’r Cyngor, a dyma fydd adeilad Ysgol Pob Oed Passivhaus cyntaf y cyngor, fydd yn gwireddu Carbon Sero Net o safbwynt ei redeg a <600kg/CO2m2 ar gyfer carbon ymgorfforedig.
“Rwyf wrth fy modd fod y cais ar gyfer adeilad newydd Ysgol Bro Hyddgen wedi cael ei gyflwyno,” meddai’r Cynghorydd Pete Roberts, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Bowys sy’n Dysgu.
“Bydd yr adeilad newydd yn cynnig cyfleusterau cyfoes ar gyfer ein disgyblion a’n staff dysgu ac yn eu helpu i roi profiad addysgol pleserus a buddiol i bawb.
“Mae hwn yn brosiect strategol pwysig ar gyfer y cyngor, oherwydd bydd yn ein helpu i wireddu ein hymrwymiadau o safbwynt Cynllun Stragegol y Gymraeg mewn Addysg ac yn cynyddu nifer y disgyblion sy’n cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd bydd yn ein helpu i fodloni nodau ein Strategaeth Trawsnewid Addys gym Mhowys.”