Mae ffigurau’r Cyfrifiad diweddaraf yn yr Alban yn dangos cynnydd yn nifer y bobol sy’n medru Gaeleg yr Alban.
Mae’r ffigwr bellach oddeutu 12,000 yn fwy nag yr oedd.
Roedd gan 2.5% o bobol dros dair oed rywfaint o sgiliau iaith yn 2022, sy’n gynnydd o 43,100 o bobol ers 2011.
Mae hynny tua dwywaith yn fwy na’r ffigwr blaenorol.
Mae canran y rhai rhwng tair a phymtheg oed sydd â sgiliau iaith wedi dyblu o 1.3% i 2.9%.
O ran cenedligrwydd, mae 65.5% o drigolion yr Alban bellach yn ystyried eu hunain yn Albanwyr yn unig.
Ond fe fu cynnydd bach hefyd yn nifer y rhai sy’n ystyried eu hunain yn Brydeinwyr yn unig (13.9%).
Ond tra bod 18.3% yn ystyried eu bod nhw’n Albanwyr ac yn Brydeinwyr yn y ffigurau diwethaf, mae’r ffigwr wedi gostwng i 8.2% erbyn hyn.