Mae plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hesgeuluso yng Nghymru, yn ôl yr undeb prifathrawon NAHT Cymru.

Maen nhw’n galw am arian ar frys i helpu i fynd i’r afael â phrinder seicolegwyr addysgol a phlant.

Bydd yr undeb yn gwneud yr alwad, sydd wedi’i chefnogi gan y Gymdeithas Seicolegwyr Addysg, yn ystod Cynhadledd TUC Cymru yn Llandudno heddiw (dydd Mawrth, Mai 21).

Wrth rybuddio bod y gwasanaethau cyhoeddus sy’n cefnogi plant wedi cael eu “herydu” yn sgil y pandemig a’r argyfwng costau byw, mae’r cynnig yn dweud bod gan y system anghenion dysgu ychwanegol newydd “sawl agwedd gadarnhaol”, gan gynnwys Cynlluniau Datblygu Unigol newydd.

Ond mae’r undeb yn dweud bod hyn yn cael ei danseilio gan “fethiant i gostio ac ariannu’n iawn” y diwygiadau mawr gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn 2021 – gan esgeuluso llawer o ddisgyblion, teuluoedd ac ysgolion.

‘Annerbyniol’

Mae’r cynnig yn dweud bod ysgolion yn ei chael hi’n anodd darparu’r cymorth sydd ei angen ar blant oherwydd cymhlethdod y gofynion, gydag awdurdodau lleol yn cael eu gorfodi i gyhoeddi eu canllawiau eu hunain ar y cod, gan roi pwysau aruthrol ar ysgolion, yn enwedig Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol.

“Mae’r Gyngres yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio’r cod ADY a’r ddeddfwriaeth sylfaenol i adlewyrchu’n well yr hyn y gall ysgolion ei gyflawni a darparu’r buddsoddiad ariannol sydd mawr ei angen i gyflawni gofynion y cod fel y mae,” medd y cynnig.

“Mae plant yn methu ac ni allwn eistedd yn ôl a gadael i hyn ddigwydd.”

Mae’r cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddyblu llefydd ar gwrs hyfforddi Seicolegydd Addysg a Phlant Caerdydd (ECP) ac i sefydlu ail gwrs hyfforddi ar gyfer y gogledd a’r canolbarth.

“Mae’n annerbyniol bod ysgolion yn cael eu sefydlu i fethu oherwydd yn syml does ganddyn nhw ddim y gallu i ddarparu ar gyfer plant,” meddai Laura Doel, ysgrifennydd cenedlaethol NAHT Cymru.

“Nid oes dim mwy dinistriol i enaid arweinydd na gwybod bod eu plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu siomi fel hyn heb unrhyw fai ar ysgolion.

“Er ei fod gyda bwriad da, mae’r diwygiadau i’r system ADY wedi cael eu hystyried yn wael mewn mannau, ac nid ydynt yn cael eu cefnogi gan y cyllid sydd ei angen i sicrhau bod pob disgybl yn cael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu.

“Mae hynny’n cynnwys y staff cywir, o gynorthwywyr addysgu ac ADYcos, i rolau arbenigol eraill.

“Mae ysgolion wedi cael y cyfrifoldeb i weithredu’r ddeddfwriaeth, ond mae disgwyl iddyn nhw ei wneud gyda’u dwylo ynghlwm tu ôl i’w cefnau.”

Galw am well amodau gwaith i arweinwyr ysgolion

Mae ail gynnig NAHT Cymru, sydd i’w glywed y prynhawn yma, yn galw am gynnydd o ran gwella amodau i arweinwyr ysgolion.

Daw hyn yn dilyn gweithredu diwydiannol gan aelodau NAHT Cymru y llynedd.

Yn y cynnig, dywed yr undeb fod eu trafodaethau yn ystod yr anghydfod wedi helpu i roi amodau gwaith gwell i arweinwyr ysgolion ar frig yr agenda, gyda’r cynllun yn rhan allweddol o gylch gorchwyl Corff Annibynnol Adolygu Cyflogau Cymru eleni.

Mae’n galw ar y Gyngres i gefnogi gwell amodau gwaith i arweinwyr ysgolion, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer absenoldeb gwarchodedig ar adegau penodol yn ystod cyfnodau gwyliau, yn ogystal ag ‘oriau gwaith rhesymol’.

“Mae arweinwyr ysgolion yn cael eu hecsbloetio, mae eu horiau gwaith yn hynod o bell uwchlaw’r hyn y dylent fod yn gweithio,” ychwanega’r cynnig.

“Mae hyn yn cael effaith niweidiol ar ddarparu addysg ac ni fydd ein diwygiadau addysgol pwysig yn llwyddiannus os na fydd arweinwyr ein hysgolion yn cael eu cefnogi.”

Y Gymraeg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) – ffordd bell i fynd!

Nanna Ryder

Beth yw’r datblygiadau diweddar, heriau a blaenoriaethau ar gyfer cefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) trwy gyfrwng y Gymraeg?