Mae gan feddygon yng Nghymru bryderon am iechyd plant, ac effaith anghydraddoldebau iechyd ar blant.

Yn sgil eu pryderon, mae ugain o Golegau Brenhinol meddygol wedi sgrifennu at Lywodraeth Cymru’n gofyn sut fyddan nhw’n gwella iechyd plant ac yn cefnogi’r gweithlu sy’n gofalu amdanyn nhw.

Yn ôl y meddygon, mae materion iechyd fel marwolaethau ymysg babanod, gordewdra a dannedd yn pydru yn effeithio ar obeithion economaidd y wlad, ynghyd ag ar ddyfodol plant Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i wella gwasanaethau iechyd i blant a rhoi’r dechrau gorau, iach mewn bywyd iddyn nhw.

‘Angen newid agweddau’

Dywed Dr Nick Wilkinson, Swyddog Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru, eu bod nhw’n gweld effaith anghydraddoldebau iechyd ymysg plant a’r effaith ar iechyd y plant a’u teuluoedd bob dydd.

“Mae ffigurau ac adroddiadau diweddar yn dangos na fedrwn ni barhau fel hyn, a bod angen newid agweddau,” meddai.

“Gyda’n gilydd fel ugain coleg brenhinol a chorff proffesiynol, rydyn ni eisiau gweithio ar frys gyda Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau iechyd.

“Yng Nghymru, mae gennym ni gyfle i wneud pethau’n wahanol, i fuddsoddi yn y gweithlu a hybu iechyd y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.

“Dw i’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n bachu ar y cyfle hwn, a dw i’n edrych ymlaen at gael ymateb y Prif Weinidog.”

Aeth 18,924 o blant dan ddeunaw oed i adrannau brys ym mis Chwefror eleni, sy’n gynnydd o 22% ers mis Chwefror 2022.

Ar hyn o bryd, mae 29% o blant Cymru’n byw mewn tlodi incwm cymharol, tra bo hynny’n wir am 21% o oedolion a 16% o bensiynwyr.

Dim ond 17% o bobol ifanc rhwng 11 ac 16 oed sy’n actif am o leiaf 60 munud bob diwrnod o’r wythnos, ac mae 32% o blant rhwng wyth ac unarddeg oed yn gwylio’r teledu neu’n edrych ar eu ffôn am ddwy awr neu fwy y diwrnod.

Mae canran y plant sydd dros eu pwysau neu’n ordew yn amrywio o 24.1% ym Mhowys a Chaerdydd a’r Fro, i 27.6% ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, 28.3% ym Mae Abertawe a 29.2% yn Hywel Dda.

Mae’r sawl sydd wedi llofnodi’r llythyr wedi creu’r Welsh Royal Colleges Child Health Collaborative (WRCCHC) er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r mater.

Daw’r cam wedi i adroddiad gan Academi’r Colegau Meddygol Brenhinol a’r Academi Gwyddorau Meddygon amlygu’r effaith mae tlodi’n ei gael ar iechyd plant.

‘Dyletswydd’

Ychwanega Dr Rowena Christmas, cadeirydd Bwrdd Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru, fod y dystiolaeth yn dangos bod anghydraddoldebau cymdeithasol yn cael effaith negyddol ar iechyd plant, ac y gall hynny barhau wrth iddyn nhw dyfu’n oedolion.

“Mae gennym ni ddyletswydd i warchod iechyd a llesiant ein plant a’n pobol ifanc, ac wrth i blant iach ddod yn oedolion iach, mae dadl economaidd gref dros hyn,” meddai.

“Ni fydd gweithredu ar wahân ar iechyd plant a phobol ifanc yn arwain at greu cenedl iach a ffyniannus, felly mae’r WRCCHC yn bwriadu cydweithio i sicrhau bod gwneuthurwyr polisi’n cymryd iechyd plant o ddifrif.”

Ymysg y rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd, Coleg y Parafeddygon a Choleg Brenhinol y Nyrsys.

‘Anodd anwybyddu’

Wrth ymateb i gynnwys y llythyr, dywed llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig y bydd hi’n anodd i’r Prif Weinidog ei anwybyddu.

“Er eu bod nhw’n dweud bod mynd i’r afael ag amseroedd aros ar gyfer triniaethau pediatreg yn flaenoriaeth iddyn nhw, dydy Llywodraeth Lafur Cymru heb gael gwared ar yr amseroedd aros o ddwy flynedd fel maen nhw wedi llwyddo i’w wneud yn Lloegr,” meddai Sam Rowlands.

“Mae mwy a mwy o bobol yn ymweld â gwasanaethau brys plant hefyd.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi argymhellion y llythyr, ac yn galw ar y Llywodraeth Lafur i gydweithio â’r Colegau Brenhinol, defnyddio eu harbenigedd a gweithredu ar gynllun i gwtogi’r amseroedd aros i gleifion ledled Cymru.”

Hyd at Chwefror 2024, roedd 7,310 o blant dan ddeunaw oedd yn aros ers dros flwyddyn am driniaethau, a 1,212 yn aros ers dros ddwy flynedd.

‘Buddsoddi mewn torri amseroedd aros’

Yn eu hymateb i’r llythyr, dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n buddsoddi mewn torri amseroedd aros.

“Rydym wedi ymrwymo i wella gwasanaethau iechyd i blant a rhoi’r dechrau gorau, iach mewn bywyd iddynt,” meddai llefarydd.

“O raglenni cymorth iechyd sy’n dechrau ar enedigaeth i brydau ysgol maethlon, addysg iechyd y geg a chymorth iechyd meddwl mewn ysgolion.

“Rydym yn buddsoddi mewn torri amseroedd aros ac mae nifer y plant sy’n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth wedi gostwng 75% ers mis Ebrill 2022.”