Mae Liz Saville Roberts yn dweud ei bod hi’n rhoi “croeso” i ddatganiad Iwerddon, Sbaen a Norwy eu bod nhw am gydnabod gwladwriaeth Palesteina.

Wrth wneud sylw ar X (Twitter gynt), dywed arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan fod eu datganiad “yn rhoi grym gwleidyddol i’r alwad am ddatrysiad dwy wladwriaeth”.

Daw hyn ar ôl i Simon Harris, Taoiseach neu Brif Weinidog Iwerddon, wneud datganiad ar y mater fore heddiw (dydd Mercher, Mai 22).

Mewn anerchiad, dywedodd fod Iwerddon yn deall o’u hanes eu hunain, wrth ddod yn annibynnol yn yr ugeinfed ganrif, yr hyn mae cydnabyddiaeth yn ei olygu.

Dywedodd fod ymosodiad Hamas ar Hydref 7 yn “farbaraidd”, gan ategu’r alwad “ar i’r holl wystlon gael eu dychwelyd ar unwaith i freichiau eu hanwyliaid”.

Hamas a Phalesteiniaid

Yn ystod ei araith, fe wnaeth Simon Harris bwysleisio’r gwahaniaeth rhwng Hamas, y grŵp brawychol, a Phalesteiniaid fel cenedl.

“Ond hefyd, gadewch i mi fod yn glir, nid Hamas yw pobol Palesteina,” meddai.

“Mae’r penderfyniad heddiw i gydnabod Palesteina wedi’i wneud er mwyn helpu i greu dyfodol heddychlon.

“Datrysiad dwy wladwriaeth yw’r unig ffordd allan o’r cylch cenhedlaeth o drais, dial a dicter…

“Yn yr un modd ag y gwnaeth cydnabod Iwerddon yn wladwriaeth arwain yn y pen draw at sefydlu ein gweriniaeth sydd bellach yn heddychlon, rydym yn credu y bydd gwladwriaeth Palesteina yn cyfrannu at heddwch ac at gymodi yn y Dwyrain Canol.”