Mae Steffan yn actor proffesiynol sydd wedi bod yn rhan o bedair sioe yn y West End yn Llundain – Les Misérables, Girl From The North Country, Spamalot a Children of Eden.
Aeth yn ei flaen i chwarae rhan Shrek, yr actor ifancaf i chware’r rhan erioed – treuliodd 2,000 o oriau yn y prosthetics gwyrdd ac awr a hanner yn y gadair colur bob dydd!
Yn ddiweddar, mae Steffan wedi ffilmio rhan fach mewn drama deledu fydd yn ymddangos ar Disney+ yn 2025.
O ddydd i ddydd, mae’n rhedeg y fferm deuluol – fferm biff a defaid, 600 acer.
Mae’n byw ym Mhlas Coch gyda Rosie ei wraig ac Arthur eu mab, hanner milltir o faes yr Eisteddfod eleni.
Lle wyt ti’n dod, a lle wyt ti’n byw erbyn hyn?
Fferm ger Dolanog. Wedi byw yn Llundain am ddeg mlynedd ond nawr nôl yng Nghymru.
Beth yw dy hoff atgof o fod yn aelod o’r Urdd?
Ymarferion Theatr yr Urdd a pherfformio yn Disneyland.
Wnest ti erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd ac ydy’r profiad o gystadlu wedi bod o fudd wedi hynny?
Ennill Unawd o Sioe Gerdd dan 18oed – Caerdydd 2009. 3ydd ar yr Unawd dan 8 oed – Llyn ac Eifionydd 1998. Ges i gam…!
Mewn tri gair, disgrifia Maldwyn i bobol sydd erioed wedi ymweld o’r blaen.
Mae pobol Sir Drefaldwyn yn glên, teyrngar ac yn boncyrs.
Beth mae bod yn Llywydd y Dydd Eisteddfod yr Urdd yn ei olygu i ti?
Braint aruthrol.