Wanesa Kazmierowska o Abertawe yw enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc, a Saffron Lewis o Sir Benfro yw enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.

Caiff y seremoni ei noddi eleni gan Ymddiriedolaeth Pantyfedwen.

Caiff Ysgoloriaeth Artist Ifanc, gwerth £2,000 ei chyflwyno drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a’i deulu am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18–25 oed.

Caiff y Fedal Gelf ei chyflwyno ar gyfer y gwaith mwyaf addawol o blith enillwyr cenedlaethol holl gynnyrch adran blwyddyn 10–19 oed.

Wanesa Kazmierowska

Mae Wanesa Kazmierowska yn 19 oed ac yn astudio ar gyfer Diploma Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Gŵyr yn Abertawe.

Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, mae hi wedi byw yn Abertawe ers dros 14 mlynedd.

Mae ganddi le wedi’i gadarnhau yn UAL (University of the Arts London) y flwyddyn nesaf i astudio Darlunio a Chyfryngau Gweledol ac mae’n gobeithio cymhwyso fel artist/darlunydd graffeg yn y dyfodol.

“Rwy’n mwynhau arbrofi gyda chyfryngau ac arddulliau artistig amrywiol i ehangu fy sgiliau, yn benodol gwneud printiau, celf ddigidol a phaentio gouache,” meddai.

Mae ei chelf wedi cael ei arddangos mewn tair oriel yn Abertawe, gan gynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian.

Derbyniodd fwrsariaeth gan Weithdy Argraffu Abertawe a chymerodd ran mewn prosiect i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu Llyfrgell Glowyr De Cymru.

Roedd ei phrint, “The Descent/Descent,” yn un o’r 20 print gafodd eu dewis, ac mae’n cael ei arddangos ar hyn o bryd yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin.

Beirniad y gystadleuaeth oedd Jo Munton a Kate Morgan-Claire.

“Roedd maes y cynigion yn eang, a’r safonau’n uchel, mae’n amlwg bod gan bawb gariad at eu maes creadigol a’r hyn sy’n eu hysbrydoli,” medden nhw.

“Mae gan Wanesa ffocws mawr ar ei gwaith a sut yr hoffai ei ddatblygu.

“Mynegodd ei syniadau mor eglur fel ei bod yn hawdd gweld bod ganddi lawer o botensial fel artist.

“Roedd ei gallu i ddeffro’r emosiynau ac adrodd stori trwy ei delwedd o’r glöwr a’r caneri yn gwneud i’r gwaith hwn sefyll allan.”

Saffron Lewis

Mae Saffron Lewis, enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg, yn fyfyriwr celf a dylunio yng Ngholeg Sir Benfro ac ar fin mynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Celfyddyd Gain ym mis Medi.

“Dechreuodd fy nghariad at y celfyddydau yn ifanc iawn ac ar hyd y blynyddoedd mae hyn wedi tyfu,” meddai.

“Mae arbrofi gydag amryw o wahanol gyfryngau a phrosesau artistig yn cadw fy angerdd yn fyw.

“Mae testun fy ngwaith yn bennaf yn organig ac yn gynaliadwy.

“Rwy’n hoffi amsugno awyrgylch fy amgylchoedd i greu marciau egnïol o fewn fy ngwaith celf.

“Mae fy ymarfer yn cynnwys amrywiaeth o gyfryngau a rwy’n hoffi creu darnau diddorol ac unigryw sydd heb eu gweld o’r blaen; lle gall y sawl sy’n edrych ar y darn greu eu stori eu hunain.”

Caiff y Fedal Gelf ei rhoi er cof am Elain Heledd a fu’n ysbrydoli disgyblion Llanegryn a Llanbrynmair a rhoddir tlws yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc gan gwmni Arwerthwyr Celfyddyd Gain Rogers Jones.

 

@golwg360

Llongyfarchiadau mawr i Wanesa Kazmierowska, enillydd Ysgoloriarth Artist Ifanc a Saffron Lewis, enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg Eisteddfod yr Urdd 2024 👏

♬ original sound – golwg360