Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae golwg360 wedi cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Guto Dafydd, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Barddoniaeth gyda Mae Bywyd Yma.


Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda…

Mae’n dilyn arfordir Llŷn (gan gynnwys Trefor ac ychydig o Eifionydd, gydag ambell dro i’r tu mewn) o’r pentre’ lle ces i’n magu i’r dre lle dw i’n byw. Ar y ffordd, mae cerddi am leoedd trawiadol ac arwyddocaol: mae pob un o’r cerddi’n dechrau gyda nodwedd ar y tir – boed yn nodwedd ffisegol, yn enw, yn weithgarwch pobl, yn chwedl neu’n hanes cysylltiedig â’r tir – ond wedyn mae’r nodwedd honno’n troi’n symbol ac yn gyfle i wyntyllu teimladau neu faterion ehangach. (Efallai bod y disgrifiad yma’n gwneud i’r llyfr swnio’n fwy boring nag ydi o go iawn.)

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol? 

Yn ymarferol, sgwrs â Dafydd Nant ym mwyty’r Mount Stuart ym Mae Caerdydd ar noson ola’ Steddfod 2018 – roedd ei awydd i weithio ar gyfrol ar y cyd yn ysgogiad i feddwl am sut y gallen ni’n dau gyflwyno’n cynefin yn Llŷn. Mae egni a phrydferthwch a lliw lluniau Dafydd yn adlewyrchu’n dda deimlad fy ngherddi innau.

Roeddwn i’n awyddus i ddod i nabod yr ardal yn well – dysgu am ei hanes a’i nodweddion, ac wedyn rhoi’r rheini yn y micsar gyda fy niddordebau a’m hofnau a’m gobeithion.

Roedd Cilfachau, cerddi Coron 2019, yn gynnyrch cynnar y broses honno, ond gohiriwyd y gyfrol am ddwy flynedd yn sgil Covid ac roedd y cyfnod hwnnw’n bwysig yn natblygiad y gyfrol – rhoddodd amser i’m crefft a’m harddull aeddfedu, ond hefyd fe ddyfnhaodd fy ngwerthfawrogiad i o’r ardal yn arw, yn enwedig wrth inni baratoi i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn 2023.

Oes yna neges y gyfrol?

Mae i’r teitl, Mae Bywyd Yma, ddwy ystyr:

  • Yn gyntaf, mae’r gyfrol yn dadlau bod modd ymgodymu â’r byd cyflawn drwy graffu ar ardal fach ohono’n fanwl iawn – mae ymateb i dirwedd, hanes a phobl Llŷn yn fodd o ddeall dynoliaeth gyfan yn well. Mae bywyd yn ei holl gyflawnder i’w gael yn Llŷn. Dw i’n archwilio sawl agwedd allweddol ar fywyd – cyd-fodoli ag eraill mewn cymdeithas a sefydliadau; bod yn greadur corfforol ar ddarn o dir; a derbyn treftadaeth a’i thraddodi i blant.
  • Yn ail, mae’r gyfrol yn ceisio dangos nad yw cymdeithas Llŷn yn farw, a bod modd byw bywyd gwerth chweil yma. Dydi o ddim yn lle trist a distaw. Mae lliw, miri a chyd-ymwneud i’w gael yma. Mae o’n lle i roi magwraeth dda i blant.

Dw i’n gobeithio hefyd fod ansawdd y cerddi’n neges ynddi ei hun – mae tuedd y dyddiau hyn i brisio pwy yw’r awdur, a phwnc y gwaith, yn uwch na’r grefft. Mae hunaniaeth a phwnc yn bwysig, wrth gwrs, ond ddylen ni ddim dibrisio’r cwestiwn “Ydi’r farddoniaeth ’ma’n dda ta be?” Dw i’n ddiolchgar iawn am y traddodiad eisteddfodol o feirniadu gwaith yn ddienw – fel bardd ifanc di-nod roedd yn gysur mawr gwybod bod gennym feritocratiaeth farddol, lle câi fy ngwaith ei farnu ar sail ei deilyngdod ei hun yn hytrach na’m credensials prin i.

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur/bardd?

Gan feddwl am y gyfrol yma’n benodol:

  • Y Caniedydd a’r Beibl: Dw i’n reit falch o sut mae cerddi Mae Bywyd Yma’n mydryddu syniadau – os nad oes rhinwedd arall yn y cerddi, mae eu Cymraeg nhw’n canu’n gyhyrog ac yn rhythmig, ac mae llawer o’r diolch am hynny i’r capel – yr Apostol Paul, William Morgan, Williams Pantycelyn a chriwiau fel’na. Thema amlwg yn y gyfrol hefyd ydi ymchwil anghydffurfiwr anghrediniol am ystyr a defod – mae hi’n fath o bererindod.
  • Be ’Di Blwyddyn Rhwng Ffrindia, Iwan Llwyd: Roedd fy nhraethawd hir yn y brifysgol yn astudiaeth o waith Iwan Llwyd a Wiliam Owen Roberts, gan ddechrau gydag erthyglau ganddynt – ‘Mae’n bwrw yn Nhoremolinos’ a ‘Myth y Traddodiad Dethol’. Roedd y rhain yn trafod sut y dylai ysgrifenwyr heddiw ymwneud â’r traddodiad barddol – nid drwy ei addoli, a’i efelychu’n eilradd, na thrwy ei ddiystyru’n llwyr, ond drwy ei ddadansoddi’n feirniadol a’i ddefnyddio’n greadigol yn ein gwaith. Mae cerddi Be ’Di Blwyddyn yn trafod byd troad y ganrif yn ddyfeisgar drwy gyfrwng hanes a thraddodiad, a dw i wedi ceisio gwneud yr un peth â dechrau’r ugeiniau yn Mae Bywyd Yma.
  • Adra, Simon Brooks: Cyfrol onest am ymdrechu i berthyn i gymdeithas Porthmadog drwy feithrin cefnogaeth bybyr ac ymroddgar o’i chlwb pêl-droed. Mae modd gweld sawl dylanwad ar Mae Bywyd Yma yn Adra: pwysigrwydd sefydliadau cymdeithasol; person ffaeledig yn ei wella’i hun drwy anwylo bro a phobl ffaeledig; cydfodolaeth bywyd deallusol eang, uchel-ael â chanolbwynt cymunedol dynol, caëedig; dyn yn ei wella’i hun drwy’r modd y mae’n magu ei blant; y penderfyniad i berthyn heb deimlo cweit yn gartrefol; a’r defosiynoldeb dwys, y gyfathrach gymdeithasol, a’r diben dirfodol (afresymol ond cwbl ddilys) a ddarperir gan ffwtbol.
  • Mae yna hefyd nofel yr ydw i wedi sylweddoli’n ddiweddar ei bod yn ddylanwad anymwybodol a gwrthdroadol – ond sylweddol iawn – arna i. (Wna i mo’i henwi rhag rhoi’r argraff mod i’n trio bod yn annymunol efo neb.) Ymatebais yn erchyll i’r nofel hon wrth ei darllen gyntaf yn fy arddegau, heb allu esbonio’n iawn pam. Erbyn hyn dw i’n credu mod i’n cael trafferth dygymod â phortread tywyll y nofel o fywyd cefn gwlad fel rhywbeth gorthrymus o ddiffaith, digalon a diymadferth. Mae modd darllen Mae Bywyd Yma fel ymdrech i gyflwyno darlun goleuach, mwy egnïol o fywyd gwledig.

Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2024

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ar Fehefin 14!