Mae dwy Lywydd y Dydd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Maldwyn heddiw (dydd Mawrth, Mai 28), a’r ddwy yn lleisiau cyfarwydd i genedlaethau o bobol sy’n mwynhau cerddoriaeth werin.
Mae Linda Griffiths yn cyflwyno rhaglen radio bob wythnos ar Radio Cymru sy’n mynd allan yn gynnar ar fore Sul. Mi fuodd hi’n aelod o’r grŵp gwerin Plethyn am flynyddoedd lawer.
Ar hyn o bryd, mae’n canu’n achlysurol fel cantores unigol a gyda’i merched – Lisa, Gwenno a Mari (Sorela).
Mae hi’n gyfieithydd llawrydd ac yn gweithio o adre ers bron i 35 o flynyddoedd.
Mae hi’n rhedeg busnes bach – iard a stablau ceffylau ar ei thyddyn.
Siân James yw un o gantorion cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru, ac un o’n prif aroleswyr ym myd cerddoriaeth traddodiadol.
Mae’n canu’r delyn Geltaidd, mae’n bianydd o fri, ac yn gyfansoddwr.
Mae ei dawn fel perfformwraig wedi mynd â hi i theatrau a gwyliau cerddorol ledled y byd, a chaiff ei pharchu fel un o’n prif lysgenhadon cerddorol.
Erbyn hyn, mae hi wedi cyhoeddi deg albwm o’i gwaith – casgliadau eclectig o ganeuon gwreiddiol a thraddodiadol sy’n cwmpasu ein hemosiynau dyfnaf, o gariad a chwerthin, i golled a’r byd ysbrydol.
Bu hefyd yn actores lwyddiannus dros gyfnod o 30 mlynedd.
Yn y byd theatr, bu’n gweithio ar gynyrchiadau gan Theatr Hwyl a Fflag, Theatr Bara Caws a Theatr Gwynedd; ac ym myd teledu, mewn ffilmiau a chyfresi megis Tylluan Wen, Pengelli, Iechyd Da, ac yn fwy diweddar, Byw Celwydd.
Mae ei hanturiaethau cerddorol diweddaraf yn cynnwys bod yn aelod o’r grŵp hynod boblogaidd Pedair.
Holi Linda Griffiths
Beth yw dy hoff atgof o fod yn aelod o’r Urdd?
Cystadlu efo Aelwyd Penllys.
Wnest ti erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd ac ydy’r profiad o gystadlu wedi bod o fudd wedi hynny?
Fues i erioed yn un am gystadlu fel unigolyn, er imi gael fy mherswadio i wneud hynny mewn ambell i gystadleuaeth werin gan y diweddar Elfed Lewys, oedd yn Weinidog yn yr ardal pan o’n i’n ifanc. Ro’n i’n mwynhau cystadlu efo Aelwyd Penllys ac mi gawsom ni gryn dipyn o lwyddiant o ystyried ein bod yn Aelwyd fach wledig. Mi enillais i’r gân bop yn Steddfod yr Urdd yn Llanelwedd yn 1978 – oedd yn syrpreis mawr!
Mewn tri gair, disgrifia Maldwyn i bobol sydd erioed wedi ymweld o’r blaen.
Croesawgar, cartrefol, clên.
Pe baet ti’n aelod o’r Urdd heddiw, pa gyfleoedd hoffet ti fod yn rhan ohonyn nhw?
Unrhyw beth sydd yn lot o hwyl a dim gormod o bwyslais ar gystadlu ac ennill.
Holi Siân James
Beth yw dy hoff atgof o fod yn aelod o’r Urdd?
Cystadlu gyda’r Ysgol Gynradd Llanerfyl ac Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion gydol fy mhlentyndod, ac yna’r aelwyd yn Nyffryn Banw, fel unawdydd ac yn rhan o gorau a phartïon.
Wnest ti erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd ac ydy’r profiad o gystadlu wedi bod o fudd wedi hynny?
Yn sicr mi fuodd cystadlu mewn eisteddfodau yn rhan annatod o fy magwraeth o pan o’n i’n dairoed, ac i un oedd yn o swil yn ei hanfod, mi fuodd y profiadau hynny yn rhai buddiol iawn. Ond yn ogystal â’r cystadlu wrth gwrs, mi fues yn aelod o Gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd a does dim dwywaith i’r profiadau hynny fy nhywys tuag at y llwybr gyrfaol y penderfynais arno.
Mewn tri gair, disgrifia Maldwyn i bobol sydd erioed wedi ymweld o’r blaen.
Y bobol yn glên, diwylliedig a dirodres.
Ydy Eisteddfod yr Urdd wedi newid ers pan oeddet ti’n aelod?
Mae ysbryd y cystadlu wedi newid rhywfaint ers fy mhlentyndod i, dwi’n teimlo, a hynny er gwell yn fy marn i. Dwi yn synhwyro bod yna fwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y ‘cymryd rhan’ i BOB plentyn – ac er taw elfen gynhenid eisteddfota yw cystadleuaeth, mae’r buddiannau mae pobol ifanc yn eu profi wrth ganu, neu chwarae offeryn, dawnsio neu lefaru yn gwbwl ddi-fesur.
Beth mae bod yn Llywydd y Dydd Eisteddfod yr Urdd yn ei olygu i ti?
Dwi’n teimlo’n hynod freintiedig i dderbyn y gwahoddiad i fod yn Lywydd y Dydd o ystyried pa mor bellgyrhaeddol fuodd dylanwad yr Urdd arna i gydol fy ieuenctid. A mae derbyn y fath fraint, a’r eisteddfod yn dychwelyd i Sir Drefaldwyn, yn golygu cymaint i mi.