Alys Hedd Jones o Gaerdydd yw Prif Ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i’w pherfformio ar unrhyw gyfrwng, ar gyfer dim mwy na dau actor, heb fod yn hirach na chwarter awr.

Yn ôl y beirniad, Angharad Lee a Sarah Bickerton, daeth degau o ddramâu i law, gyda “phob un â photensial, a dewis y tri oedd ar y brig yn dasg anodd iawn.”

Y Prif Ddramodydd a’r feirniadaeth

Mae Alys yn 17 mlwydd oed ac yn astudio Llenyddiaeth, Drama, Cymdeithaseg a Ffrangeg fel Lefelau A yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.

Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn theatr a cherddoriaeth ac mae hi’n mwynhau ysgrifennu, actio, canu a chyfansoddi caneuon.

Mae ei drama buddugol ‘Amserlen’ yn stori am ddwy ffrind sydd wedi ffraeo, ac am benderfyniad fyddai’n newid eu bywydau am byth.

“Dyma ddrama agos atoch oedd yn ein annog i barhau i ddarllen o’r cychwyn cyntaf.

“Mae’r ddeialog yn fachog, gwych gyda chysyniad syml ond theatrig sydd yn llwyddo i ddal y boen a’r dasg amhosib o ollwng gafael ar y gorffennol.

“Mae’n archwilio rhywbeth mor gymhleth mewn ffordd agos atat ti a llawn calon.”

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Annell Dyfri o Langynnwr, ac Alaw Jones o Llanbedr Pont Steffan oedd yn drydydd.

Bydd Alys Hedd Jones yn treulio amser yng nghwmni’r Theatr Genedlaethol ac yn derbyn hyfforddiant pellach gyda’r BBC.

Derbyniodd fedal arbennig wedi ei chreu gan y gemydd Rhiannon o Dregaron.

Caiff y Fedal ei rhoi er cof am Meinir Wyn Jones, Cyn-drefnydd yr Urdd Maldwyn, gan Menna a’r teulu.

Bydd gwaith y Prif Ddramodydd yn cael ei gyhoeddi ar ffurf pamffled gan Gyhoeddiadau’r Stamp yn syth ar ôl y seremoni.

Mae modd prynu copi ar y maes neu mewn siopau lyfrau lleol.

Bydd gwaith Annell ac Alaw a’r feirniadaeth lawn ar gael ar wefan yr Urdd cyn diwedd y dydd.

 

@golwg360

Llongyfarchiadau mawr i Alys Hedd Jones, Prif Ddramodydd Eisteddfod yr Urdd eleni 👏 #cymru #eisteddfod

♬ original sound – golwg360