Mae Elen yn Bennaeth Adloniant yn S4C ers bron i ddegawd, ac wedi bod yn gyfrifol am gomisiynu rhai o frandiau mwya’ poblogaidd a llwyddiannus y sianel sydd wedi ennill amryw o wobrau – cyfresi fel Priodas Pum Mil, Sgwrs Dan y Lloer, Ysgol Ni Maesincla / Moelwyn, Hen Blant Bach, cyfresi coginio Chris y cogydd, Iaith ar Daith a Lwp, sy’n dathlu cerddoriaeth cyfoes Cymru.

Mae’r genre yn un eang sy’n cynnwys comedi, cerddoriaeth a rhai o’n digwyddiadau pwysicaf ni yng Nghymru – yn eu mysg mae’r Eisteddfod Genedlaethol, Tafwyl, y Ffermwyr Ifanc, Gŵyl Cerdd Dant Cymru, Cân i Gymru ac yn ddiweddar Côr Cymru ac Y Llais.

Mae hi’n fraint o swydd, ac mae Elen Rhys yn parchu’r cyfrifoldeb sydd arni i ddathlu ac adlewyrchu’r gynulleidfa amrywiol sydd yng Nghymru. Y gynulleidfa sydd wrth galon pob dim.

Mae hi’n wythnos brysur i Elen ym Meifod, a hithau’n beirniadu yn yr adran lefaru ac yn arwain.

Mae dylanwad yr Urdd yn aruthrol arni – gan fynegi ei gwerthfawrogiad i’r cyfleodd lu – a heb yr Urdd, mae’n siwr na fyddai wedi mentro a chael yr hyder i ddilyn ei gyrfa.


Holi Elen

Beth yw dy hoff atgof o fod yn aelod o’r Urdd?

Gen i gymaint o atgofion hapus. Gwneud ffrindiau oes ydi un o’r prif bethau, boed yn Llangrannog, cystadlu neu tra’n aelod o Theatr Genedlaethol yr Urdd. Roedd ymuno â chast Pinocio yn 16 oed a theithio theatrau Cymru yn uchafbwynt. Er Cymraeg yw fy mamiaith, roeddwn yn mynychu’r ysgol uwchradd leol oedd yn Saesneg ei hiaith ar y pryd. Felly roedd cymdeithasu â chyfoedion yn y Gymraeg am bythefnos a chael profiadau gwych wrth berfformio yn drobwynt i mi.

Mewn tri gair, disgrifia Maldwyn i bobol sydd erioed wedi ymweld o’r blaen.

Mwynder (ei phobol), Sbesial ac Adre’.

Ydy Eisteddfod yr Urdd wedi newid ers pan oeddet ti’n aelod?

Mae gymaint wedi newid ac mae gen i barch aruthrol at y gwaith gwych mae yr Urdd yn ei wneud. Mae wedi ac yn parhau i esblygu gymaint a’r weledigaeth a’r cyfleoedd yn fy rhyfeddu ac yn f’ysbrydoli. Eto, mae curiad ei chalon wedi parhau’n gyson drwy’r blynyddoedd – sef sicrhau cyfleoedd arbennig i blant a bobol ifanc Cymru yn y Gymraeg.

Beth mae bod yn Llywydd y Dydd Eisteddfod yr Urdd yn ei olygu i ti?

Gwerthfawrogiad, braint a balchder.