Cafodd Aeron ei fagu yng nghefn gwlad Sir Drefaldwyn, gyda’r Urdd yn chwarae rhan fawr yn ei fywyd ers yr ysgol gynradd.

Ar ôl gadael yr ysgol, fe ymunodd ag Aelwyd Bro Ddyfi a chystadlu am flynyddoedd.

Yn fwy ddiweddar, ar ôl mynd dros oedran cystadlu gyda’r Urdd, mae wedi bod yn gweithio ar raglenni i blant ar S4C, yn chwarae y cymeriad BenDant yn sioeau CYW, a hon fydd ei bedwaredd Eisteddfod yr Urdd ar ddeg yn y wisg morleidr.

Yn ystod y blynyddoedd hyn, mae wedi cael profiadau di-ri, yn cynnwys arwain y pasiant meithrin, perfformio yn y cyngherddau agoriadol, a channoedd o sioeau Cyw.

Mae hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i gyflwyno a bod yn westai ar sawl eitem ar gyfer teledu a radio, gan gynnwys cyfres Wil ac Aeron a chyflwyno rhaglenni Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru.


Holi Aeron

Beth yw dy hoff atgof o fod yn aelod o’r Urdd?

Sawl atgof melys fel plentyn ond yn fwy diweddar falle mae cystadlu efo Aelwyd Bro Ddyfi fyse’r atgofion sy’n aros yn y cof, er fod na gant a mil o atgofion gan BenDant, sydd wedi bod yn mynychu pob steddfod ers 14 mlynedd!

Wnest ti erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd, ac ydy’r profiad o gystadlu wedi bod o fudd wedi hynny?

Mi fues i’n cystadlu yn blentyn efo’r ysgol a chael ambell drip i’r steddfod sir yn sgil hyn, ond yn fwy diweddar mi fues i’n aelod o Aelwyd Bro Ddyfi ac mi fues i’n ffodus o ennill yng nghystadleuaeth y Corau Cymysg, Côr meibion ac fel aelod o driawd ensemble. Doedd gen i ddim yr hyder na’r gallu i fentro llawer yn unigol ond yn sicr roedd y profiadau dros y blynyddoedd o fod ar lwyfan yr Urdd yn arbennig ac wedi agor drysau i berfformio a bod yn gyfforddus ar lwyfan ac ar y sgrin!

Erbyn hyn dwi’n rhiant ac yn brysur droi fewn i un or “pushy parents” syn llusgo fy mhlant o un steddfod i’r nesa’!

Ydy Eisteddfod yr Urdd wedi newid ers pan oeddet ti’n aelod?

Mae’r urdd wedi newid dipyn ers pan o’n i’n aelod. Mae’n sicr wedi tyfu ac addasu efo’r oes. Dwi’n ffodus o gael gweithio ym mhob steddfod ac mae’r newidiadau bach o flwyddyn i flwyddyn yn syml ond yn effeithiol. Mae hynny yn glod mawr i’r pwyllgorau a’r staff sy’n gweithio yn ddiflino i wella yr cynnig o un flwyddyn i’r nesa.

Beth mae bod yn Llywydd y Dydd Eisteddfod yr Urdd yn ei olygu i ti?

Mae bod yn Llywydd y Dydd yn fraint aruthrol. Wnes i erioed feddwl y byswn i’n dod i unlle yn agos i Lywydd y Dydd mewn Steddfod yr Urdd. Mae yna lawer iawn o bobol yn Sir Drefaldwyn sy’n haeddu y teitl yn fwy na fi, gan eu bod wedi rhoi oes o wasanaeth yn hyfforddi, trefnu, meithrin a rhoi o’u hamser i’r mudiad gwych yma. Mi fydd yn ddiwrnod arbennig iawn ac un y byddai’n ei drysori.