Mae’n “deimlad bendigedig” ennill Tlws John a Ceridwen Hughes, yn ôl yr enillydd yn Eisteddfod yr Urdd fore heddiw (dydd Iau, Mai 30).

Ers dros 50 mlynedd, mae Menna Williams o Langernyw ger Abergele wedi bod yn hyfforddi cenedlaethau o blant a phobol ifanc i ganu, cystadlu a gosod Cerdd Dant, ac mae ei brwdfrydedd a’i hymrwymiad i ieuenctid ardal Bro Cernyw yr un mor gryf ag erioed.

Dros y degawdau, mae Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled wedi’i chyflwyno 32 gwaith i wirfoddolwyr arbennig yn wobr am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei roi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.

‘Ro’n i’n meddwl y byd ohonyn nhw’

Yn wreiddiol o Groes, Dinbych, roedd Menna Williams yn aelod o Aelwyd y Groes o dan arweiniad John a Ceridwen Hughes yn blentyn, a derbyniodd hyfforddiant canu a chystadlu pellach gan Ceridwen.

“Fe gafodd y ddau ddylanwad mawr arna i,” meddai wrth golwg360.

“Roedd John yn brifathro da iawn ac yn drylwyr iawn, ac yn ein cadw ni ar ôl yr ysgol i ddysgu at yr ysgoloriaeth hefyd – roedden ni’n dod adref yn y tywyllwch weithiau!

“A Ceridwen oedd yn ein dysgu ni i ganu yn y pentref.

“Ro’n i’n meddwl y byd ohonyn nhw.

“Dw i’n meddwl mai fi yw’r un agosaf atyn nhw i dderbyn y tlws erioed.

“Mae’n deimlad bendigedig ac mae hi’n dlws mor hardd.”

Yr ail erioed i ennill y Tlws oedd diweddar ŵr Menna, sef Llew Williams, a hynny yn ôl yn 1993.

Bydd ei thlws nawr yn ymuno gydag un Llew yn ei chartref.

“Dydy o ddim cweit yr un fath â thlws Llew, ond mi fydda i’n ei rhoi hi efo’r fersiwn pren o dlws Llew a gafodd o gan Aelwyd Bro Cernyw rŵan.”

‘Wrth fy modd yn eu gweld nhw’n llwyddo’

Drwy gydol ei gyrfa’n athrawes gynradd a thu hwnt, mae Menna Williams wedi bod yn brysur yn hyfforddi plant a phobol ifanc ardal Gellifor, y Bala, Llanrwst ac yna Llangernyw i ganu unawdau, ynghyd â phartïon a chorau er mwyn cystadlu yn Eisteddfodau’r Urdd.

Am ddegawdau, bu’n rhoi o’i hamser i hyfforddi’r bobol ifanc yn Aelwyd yr Urdd Bro Cernyw, a daeth llwyddiannau di-ri iddynt dros y blynyddoedd.

Dywed ei bod hi’n mwynhau gweld y plant yn magu hyder wrth ddatblygu o ddechrau drwy ganu mewn grŵp i ganu penillion unigol, ac yn y pen draw, cystadlu yn unigol.

“Dw i wrth fy modd yn eu gweld nhw’n llwyddo,” meddai.

“Mae hyd yn oed yr un salaf yn cael yr un faint o ymarfer, hyd yn oed pan dydyn nhw ddim cweit yn gallu cadw tiwn pan maen nhw’n ifanc ond eisiau trio.

“Dw i’n rhoi’r un faint i mewn i bawb ac yr un mor obeithiol dros bawb.”

Cyfraniad ‘amhrisiadwy’

“Ar ran yr Urdd hoffwn longyfarch Menna Williams ar ennill Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled 2024,” meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru.

“Mae’r cyfraniad mae unigolion fel Menna yn ei wneud yn amhrisiadwy, ac rydym yn hynod o ddiolchgar am ei gwaith diflino dros y blynyddoedd.”