Bydd sioe newydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn mynd ar daith “at stepen ddrws pobol” dros yr haf.
Gan ddechrau yn Aberteifi a gorffen yn Nefyn, bydd Ble mae trenau’n mynd gyda’r nos a chwestiynau mawr eraill bywyd yn ymweld â sawl neuadd bentref ym mis Mehefin a Gorffennaf.
Mae’r sioe yn gwahodd y gynulleidfa i ymuno â’r cast o 22 o berfformwyr ifanc, sy’n cynnwys wyth aelod niwroamrywiol a rhai sydd erioed wedi perfformio yn y Gymraeg o’r blaen, ar daith drên i ystyried rhai o gwestiynau ‘mawr’ bywyd.
Amrywia’r cwestiynau hynny o ‘Beth mae Beyonce yn ei fwyta i frecwast’ i ‘A oes heddwch’, yn ôl Branwen Davies, sy’n arwain Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd.
Dechreuodd y broses fis Hydref y llynedd gyda’r criw yn dod at ei gilydd mewn cyfres o sesiynau ‘stafelloedd sgrifennu’ i ddatblygu syniadau ar y cyd.
“Yn ystod yr ystafelloedd ysgrifennu, fe wnaethon ni greu cwestiynau gwahanol, cwestiynau oedd yn llosgi pen y bobol,” meddai Branwen Davies wrth golwg360.
“Mae gen ti’r chwareus a’r dirdynnol hefyd, ond mae’r holl ddrama wedi’i gosod ar drên.
“Rydyn ni i gyd yn gallu uniaethu efo bod ar drên a gadael i’r meddwl ffrwydro, ond weithiau mae’r trên yn haniaethol wedyn yn llythrennol.
“Mae gen ti olygfa lle mae’r ci ar y trên yn codi i wneud stand-yp, mae gen ti hogyn bach yn gweld yr olygfa’n gwibio heibio a gadael i’w feddwl grwydro a gofyn y cwestiynau mawr yna rydyn ni fel oedolion efallai ofn gofyn.
“Mae gen ti rai golygfeydd heb destun o gwbl, ac rydyn ni ar y cerbyd tawel a’r synau yna sy’n mynd ar nerfau pobol.
“Mae yna rywbeth i bawb, mae yna elfennau eithaf chwareus ond mae yna bendant rywbeth i feddwl [amdano] ac rydyn ni’n gwahodd y gwahodd y gynulleidfa i gael paned a chacen efo ni ar y diwedd a gofyn cwestiynau eu hunain.
“Efallai bod o’r math o sioe sy’n gwneud i chdi deimlo fel dy fod di’n perthyn rywsut achos ti ddim y person od yna, ein bod ni i gyd yn gofyn pethau rhyfedd pan rydyn ni’n synfyfyrio ar y trên.”
‘Cyswllt agos â’r gynulleidfa’
Un o gast y ddrama ydy Betsan Lewis, sy’n 17 oed ac yn dod o Sir Gaerfyrddin.
Roedd hi’n aelod o gynhyrchiad Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd o Deffro’r Gwanwyn y llynedd hefyd.
“Achos bod e ar lwyfan draws mae cyswllt agos iawn â’r gynulleidfa, rydyn ni’n agos iawn iddyn nhw am ein bod ni mewn lleoliadau llai hefyd,” meddai.
“Maen nhw’n mynd i deimlo fel eu bod nhw mewn sioe bersonol, os fysech chi’n mynd i weld y sioe ar ddwy noson wahanol sa i’n credu fyddech chi’n cael yr un profiad – mae pob noson am fod yn wahanol.
“Hyd yn oed o fewn y cast, rydyn ni’n dehongli golygfeydd mewn ffyrdd gwahanol, does dim cysondeb iddo fe ac mae hwnna’n beth mor unigryw, achos wedyn mae’r sioe’n unigryw i bawb.”
‘Gweithio â’r gorau yn y maes’
Mae’r criw creadigol yn cynnwys Juliette Manon, Elan Isaac, Math Roberts, Efa Dyfan a Luned Gwawr, a dywed Branwen Davies ei bod hi “mor bwysig bod y bobol ifanc yn cael gweithio gyda’r bobol orau yn y maes”.
“Mae yna bobol sydd erioed wedi perfformio o’r blaen, pobol sydd erioed wedi perfformio yn y Gymraeg o’r blaen, wyth aelod o’r cast sy’n niwroamrywiol,” meddai.
“Eleni, wnaethon ni ddim cynnal clyweliadau; os wyt ti ar gael ac eisiau bod ar sioe, croeso i ti ddod.
“Rydyn ni’n trio gwneud yn siŵr bod pawb yn cael y cyfle, a dw i’n meddwl bod y sioe yma’n gweithio’n dda i bobol sydd gan sgiliau gwahanol.”
“Chafodd neb eu castio, mae pawb wedi cael rhan sy’n siwtio nhw ac maen nhw’n gallu dangos eu doniau,” meddai Betsan Lewis.
“Maen nhw wedi gwneud y sioe yma i’r bobol sydd gyda nhw, a dyna pam mae e mor effeithiol. Maen nhw wedi creu sioe ar ein cyfer ni, ac felly rydyn ni’n mynd i fwynhau hynny ac mae e am drosglwyddo i’r gynulleidfa wedyn.”
‘Mynd â’r theatr at stepen ddrws’
Bydd y daith yn dechrau yng Nghastell Aberteifi ar Fehefin 28, cyn teithio i Ddolywern, Casnewydd, Ystradgynlais, Aberffraw a Nefyn, gyda’r tocynnau’n mynd ar werth ddydd Sadwrn (Mehefin 1).
“Roedden ni’n benderfynol o fynd â’r theatr i stepen ddrws pobol a pheidio mynd i’r theatr, cymunedau sydd efallai ddim efo theatr ar stepen drws,” meddai Branwen Davies.
“Roedden ni eisiau teithio, ac roedden ni’n awyddus i roi’r profiad i bobol ifanc deithio.
“Bod y gymuned yn dod atom ni a bod y gymuned yn teimlo’u bod nhw’n gallu perchnogi hyn.”
Bydd elw pob perfformiad yn mynd tuag at elusennau lleol hefyd.