Lois Medi Wiliam o Benrhosgarnedd ger Bangor yw Prifardd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.

Mae hi ar fin graddio o Ysgol Economeg Llundain (LSE) mewn Anthropoleg Gymdeithasol, a bellach yn byw yng Nghaernarfon.

Mae hi’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd y Garnedd, Bangor lle’r enillodd ei chadair eisteddfodol gyntaf.

Enillodd hefyd goron eisteddfod Ysgol Tryfan, Bangor a chadair eisteddfod Ysgol Uwchradd David Hughes, Porthaethwy.

Ddwy flynedd yn ôl, daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Medal Ddrama yr Urdd.

Y llynedd, dyfarnwyd iddi Dlws D. Gwyn Evans gan Gymdeithas Barddas am y gerdd orau i rai rhwng 16 a 25 oed.

Mae hi eisoes wedi cyhoeddi cerddi yn Codi Pais ac yn Ffosfforws (Cyhoeddiadau’r Stamp), ond dyma’r tro cyntaf iddi gyhoeddi ei barddoniaeth yn unigol.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi cerdd neu gerddi caeth neu rhydd heb fod dros 100 o linellau ar y testun ‘Gwrthryfela’.

Ysgrifennodd Lois Medi Wiliam y gerdd fuddugol er cof am ei thaid, y Prifardd John Gruffydd Jones, un a hybodd ei diddordeb mewn llenydda.

Y feirniadaeth

Dywed y beirniaid Tegwyn Pughe Jones a Mari George ei bod yn haeddu’r gadair am “gynildeb hyfryd” ei cherdd.

“Fe lwyddodd cerdd syml y bardd hwn i fynd â fy ngwynt,” medden nhw.

“Ymgais i ddygymod â galar sydd yma ac mae’r dweud yn hynod afaelgar o’r dechrau un.

“Nid yw’r thema yn y gerdd yn newydd ond mae arddull ymatalgar a chynnil y bardd a’r ymdriniaeth a’r thema yn taro deuddeg.

“Mae’n llwyddo i gyfleu hiraeth a thristwch mewn ffordd aeddfed heb bentyrru ansoddeiriau a heb greu darluniau sentimental.”

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Brennig Davies o Gaerdydd, a Tesni Elen Peers o Wrecsam yn drydydd.

Bydd gwaith y ddau yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Urdd heddiw.

Bydd y gwaith buddugol ynghyd â’r feirniadaeth ar gael i’w darllen yng Nghyhoeddiadau’r Stamp ar ôl y seremoni.

Y Gadair

Mae Lois Medi Wiliam yn derbyn cadair hardd wedi ei chreu gan y saer Siôn Jones o Lanidloes a’i rhoi gan NFU Cymru Maldwyn.

“Mae creu cadair Eisteddfod yr Urdd yn gyfle unwaith mewn bywyd, ac mae creu’r gadair ar gyfer ardal sy’n golygu gymaint i fi a’r teulu yn fraint,” meddai.

“Mae’r Urdd yn bwysig i Gymru ac yn dod â phobl â’r iaith at ei gilydd, mae’r ffaith bod fy nghadair i yn mynd i serennu ar lwyfan Eisteddfod Maldwyn yn rhywbeth dwi’n falch iawn ohono.”

Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru, er cof am Olwen Dafydd.

Mae hyn yn bosib drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.

 

@golwg360

Llongyfarchiadau mawr i Lois Medi Wiliam, Prifardd Eisteddfod yr Urdd eleni 👏 #cymru #eisteddfod

♬ original sound – golwg360