Mae darparu traciau ymarfer ar gyfer cystadlaethau Eisteddfod yr Urdd yn rhoi “cyfle teg i bawb”, yn ôl Cydlynydd Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru.

Mae tros 200 o ysgolion wedi manteisio ar y traciau ymarfer eleni, o ganlyniad i bartneriaeth newydd gyda Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun, mae’r Urdd wedi cyhoeddi y bydd y cynnig yn cael ei ymestyn ar gyfer Eisteddfod 2025.

Y nod yw cynyddu’r cyfle i blant ddysgu ac ymarfer y darnau gosod, a rhoi cyfle i fwy o blant a phobol ifanc a’u hathrawon gymryd rhan yng ngŵyl ddiwylliannol ieuenctid fwyaf Cymru.

‘Cyfle teg’

Cynllun rhwng Eisteddfod yr Urdd, y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol a Charanga Cymru, sef platfform cerdd ddigidol sydd ar gael am ddim i holl ysgolion Cymru, yw hwn.

“Y nod oedd treialu rhoi rhai o ddarnau ymarfer cystadlaethau ar Charanga Cymru fel bod athrawon a disgyblion sydd efallai ddim efo athro i ddysgu nhw i ganu neu sydd heb rywun i gyfeilio iddyn nhw adref yn gallu dysgu’r caneuon,” meddai Mari Lloyd Pritchard, Cydlynydd Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru.

“A dw i’n pwysleisio nad cymryd lle’r cerddor ydy hyn ond ategu a chefnogi pobol ifanc ymhellach, a’r plant rheini sydd ddim yn cymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd gan nad oes ganddyn nhw’r adnoddau.

“Rydan ni wedi rhoi mynediad hawdd a rhad ac am ddim i’r adnoddau yna.

“Mae o’n cyfarch lot o anghenion ac ein dyheadau ni fel Gwasanaeth Cerdd, ac wrth gwrs mae neges yr Urdd, Urdd i bawb, yn cydfynd efo be rydan ni’n ceisio’i gyflawni yn fan hyn, sef rhoi cyfle teg i bawb, lle bynnag yr ydych chi’n byw a beth bynnag ydy eich sefyllfa chi.”

‘Arfogi’ athrawon

Ers lansio’r adnoddau, mae’r platfform wedi gweld dros 200 o ysgolion newydd yn ei ddefnyddio, cynnydd o 35% yn yr ymweliadau â’r wefan, a thros 40 o ysgolion newydd wedi cystadlu am y tro cyntaf yn yr Eisteddfodau Cylch a Sir.

“Mae’r ymateb gawsom ni yn anhygoel,” meddai Mari Lloyd Pritchard wedyn.

“Mae llwyth o ysgolion wedi dweud wrthym ni ei fod o’n gamechanger.

“Mae o’n wirioneddol wedi arfogi athrawon sydd efallai ddim mor hyderus pan dydy’r cerddor ddim yno efo nhw yn y dosbarth.”

Ar ôl eu llwyddiant, y nod ar gyfer 2025 yw darparu’r un adnoddau i’r gystadleuaeth uwchradd yn ogystal â’r cynradd.

Bydd yr adnoddau ar gael gyda rhestr testunau 2025 yn yr hydref.

“Mae Eisteddfod yr Urdd mor falch i gydweithio â Charanga Cymru a Gwasnaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru, i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y celfyddydau, a chystadlu yn yr Eisteddfod,” meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd.

“Dyma’r flwyddyn gyntaf i ni ddarparu’r adnoddau hyn, ac anelwn at ddarparu traciau ac adnoddau ar gyfer pob un o’n cystadlaethau cerddoriaeth i’r dyfodol.”