Mae athrawes wnaeth ffoi’r rhyfel yn Syria gyda’i phlant wedi ennill gwobr genedlaethol am ei gwaith yn ysbrydoli eraill.
Fe wnaeth Inas Alali ddianc gyda’i dau blentyn yn dilyn marwolaeth ei gŵr, gan gyrraedd Caerdydd yn 2019.
Inas Alali yw enillydd categori Gorffennol Gwahanol: Dyfodol i’w Rannu yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2024, fydd yn cael eu cyflwyno ar Fedi 10.
Pwrpas y gwobrau yw cydnabod y rhai sydd wedi dangos ymrwymiad i beidio byth â rhoi’r gorau i ddysgu.
Ers 2011, mae’r gwrthdaro yn Syria wedi lladd mwy na 600,000 o bobol, ac mae miliynau’n rhagor wedi cael eu dadleoli.
Bu Inas Alali yn gweithio ym myd addysg am 16 mlynedd yn Syria.
Er bod ganddi radd Saesneg, bu’n gwirfoddoli ym maes addysg am ddwy flynedd i wella’i Saesneg cyn mynd ôl i ddysgu’n llawn amser.
“Ar ôl marwolaeth fy ngŵr a dechrau’r rhyfel, roedd fy mywyd, a bywydau fy mhlant, dan fygythiad,” meddai.
‘Golygu llawer’
Cymhwysodd Inas Alali i ddysgu oedrannau ôl-16 drwy Brifysgol Metropolitan Caerdydd, a dywed fod ei llawenydd wrth ennill y wobr “yn annisgrifiadwy”.
“Yn gyntaf, oherwydd roeddwn i eisiau cyflwyno neges i bawb sydd wedi’u gorfodi gan amgylchiadau i newid eu bywyd a symud i wlad arall: nid yw’n ddiwedd y byd, a gallwn barhau i symud ymlaen a rhoi popeth sydd gennym heb osod rhwystrau i’n cynnydd.
“Yn ail, rwy’ wedi ennill llawer o wobrau yn Syria, a hefyd yn y Deyrnas Unedig, ond mae hyn yn golygu llawer i mi oherwydd ei fod yn ymwneud â’r brifysgol lle rwy’n falch fy mod wedi ennill fy ngradd broffesiynol gyntaf yn y Deyrnas Unedig ar ôl gadael fy ngwlad.
“Rwy’n falch iawn o’m cysylltiad â’r brifysgol hon.”
‘Mor ddewr’
Tiwtor ei chwrs yng Nghaerdydd oedd Leanne Davies.
Wrth astudio, bu Inas Alali yn gweithio dwy swydd ran amser – gan gynnwys dysgu Arabeg yng Nghanolfan Arabeg Fayza – i gefnogi ei theulu ac i dalu am lety iddyn nhw.
“Roedd hi mor ddewr, ac fe roddodd gipolwg i mi ar yr amgylchiadau ofnadwy wnaeth newid ei bywyd a’i harwain i Gaerdydd,” meddai Leanne Davies.
“Roedd hi’n gadarnhaol trwy’r amser, ac ymgysylltodd â llawer o diwtorialau a mecanweithiau cymorth i wella’i hun yn barhaus a chyrraedd y safon broffesiynol angenrheidiol i addysgu mewn addysg ôl-16.”
‘Goresgyn heriau sylweddol’
Caiff Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru ei chynnal rhwng Medi 9-15, a’r uchafbwynt yw’r gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
“Hoffwn longyfarch holl enwebeion ac enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2024 a diolch iddynt am rannu eu straeon ysbrydoledig gyda ni,” meddai Joshua Miles, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith.
“Maen nhw wedi goresgyn heriau sylweddol, fel materion iechyd, diweithdra, hyder isel, neu gyfrifoldebau gofalu, ac wedi trawsnewid eu bywydau trwy ddysgu.
“Wrth wneud hynny, maen nhw hefyd wedi ysbrydoli eraill i ddilyn ôl eu traed ac wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau ledled Cymru.
“Mae dysgu yn daith gydol oes sy’n gallu cyfoethogi ein bywydau mewn sawl ffordd.
“Nawr yn fwy nag erioed, mae’n bwysig ein bod ni’n cefnogi ac yn dathlu oedolion yng Nghymru sy’n dychwelyd i addysg yn ddiweddarach mewn bywyd yn y gobaith o ddyfodol mwy disglair.”