Mae’r darlledwr Andrew Marr wedi beirniadu arwyddion Gaeleg yr Alban yng Nghaeredin, yn ôl adroddiadau.

Yn ôl y wasg yn y wlad, daeth ei sylwadau mewn digwyddiad gydag Anas Sarwar, arweinydd Llafur yr Alban, yn Lerpwl.

Dywedodd wrth y gynulleidfa yn ystod sesiwn holi ac ateb fod yr arwyddion dwyieithog yng ngorsaf Haymarket yn “sarhaus” a “gwarthus”.

Roedd yn ymateb i gwestiwn gan aelod o’r gynulleidfa oedd wedi gofyn a fyddai Llafur yr Alban yn ceisio dysgu gwersi gan Lafur yng Nghymru, sy’n hybu’r Gymraeg.

“Efallai fy mod i’n anghytuno’n llwyr ag Anas fan hyn, dw i ddim yn gwybod,” meddai Andrew Marr.

“Dw i’n ei chael hi’r un mor sarhaus fod pob mathau o rannau o’r Alban, sydd erioed wedi bod yn Aelig, lle dyw’r Aeleg erioed wedi cael ei siarad…

“Pam fod rhaid i Haymarket gael yr Aeleg ar gyfer Haymarket oddi tano? Mae’n warthus.”

Dwyieithrwydd

Wrth i’r drafodaeth fynd yn ei blaen, eglurodd Andrew Marr fod “Albanwyr yn gyfuniad o nifer o wahanol bobol yn hanesyddol”.

“Mae nifer o grwpiau gwahanol o bobol wedi dod i’r Alban, ac wedi dod â gwahanol ieithoedd, a dw i’n credu y dylen ni adael i ieithoedd orffwys a llewyrchu le maen nhw,” meddai.

“Sy’n golygu bod y Gaeltacht yn aros yn Gaeltacht, a’r Saesneg…”

Wrth dorri ar ei draws, cyfeiriodd Anas Sarwar at Torcuil Crichton, Aelod Seneddol Llafur sy’n medru’r iaith, fel “protest un dyn”.

Margadh an Fheòir

Margadh an Fheòir yw’r enw Gaeleg ar Haymarket, ac fe gafodd ei ddefnyddio mewn arwydd yn yr orsaf am y tro cyntaf yn 2010.

Ond fe fu arwyddion dwyieithog yn yr Alban ers y 1990au, pan oedd Donald Dewar yn Ysgrifennydd Gwladol yr Alban yn Llywodraeth Lafur Tony Blair.

Daeth arwyddion dwyieithog yn fwy cyffredin o dan weinyddiaeth Lafur/Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn ôl Deddf Iaith 2005, roedd disgwyl i gyrff cyhoeddus fabwysiadu Cynllun Iaith.

Er ei fod yn anghytuno â sylwadau Andrew Marr, dywed Anas Sarwar fod y pwyslais yn anghywir, gan fod “y strategaeth iaith Aeleg wedi’i gwreiddio o amgylch arwyddion a symboliaeth yn hytrach na chyfleoedd a chanlyniadau economaidd”.