Mae un o brif ffigyrau Reform UK yng Nghymru’n dweud bod rhaid trafod dyfodol datganoli yn ystod cynhadledd y blaid yng Nghymru ar Dachwedd 8.

Dywed Oliver Lewis, prif lefarydd Reform yng Nghymru, fod rhaid bod yn “agored” ac yn “bragmatig” ynglŷn â phwerau sydd gan y Senedd eisoes, a hefyd ystyried a ddylai unrhyw feysydd eraill gael eu datganoli hefyd.

Ychwanega y bydd cynnwys maniffesto’r blaid ar gyfer etholiad Senedd 2026 yn cael ei benderfynu gan aelodau yng Nghymru.

Trafod dyfodol datganoli

Wrth ailadrodd sylwadau Nigel Farage, arweinydd Reform UK, dywed Oliver Lewis fod y blaid yn “parchu’r refferenda” sydd wedi’u cynnal yn sgil datganoli yn 1997 a 2011.

Er hyn, dywed fod rhaid cael trafodaeth ynglŷn â sut ddylai datganoli edrych yn y dyfodol.

“Yn ystod y gynhadledd ar ddechrau mis Tachwedd, mi fydd y blaid yn trafod sut i gymryd datganoli ymlaen,” meddai wrth golwg360.

“Felly mi fyddwn ni’n trafod a ddylai mwy o bwerau gael eu datganoli, neu a ddylai rhai pwerau gael eu rhoi yn ôl i San Steffan.

“Rydym yn cadw meddwl eithaf agored am hyn ac yn bragmatig am y cwestiwn hwnnw dros ddyfodol datganoli.”

Er bod Oliver Lewis yn datgan ei fod o a’r blaid yn cadw meddwl agored am ddyfodol datganoli, dywed fod datganoli mewn rhai meysydd megis amaeth wedi bod yn “ddryslyd”.

“O siarad efo ffermwyr, mae datganoli pwerau dros amaeth wedi dod â dryswch mawr iddyn nhw, yn enwedig i rai sydd yn byw naill ochr i’r ffin, ac sydd yn berchen ar dir sydd yn ymestyn ar draws y ffiniau efo dau fath o reolau.”

Ychwanega fod amaeth yn esiampl o le mae’n rhaid i Reform fod yn “bragmatig” a chael trafodaeth am yr hyn sydd yn gweithio i ffermwyr neu beidio.

Wrth drafod pwerau dros drafnidiaeth, a rheilffyrdd yn benodol, dywed Oliver Lewis fod rhaid “ailfeddwl” ynghylch sut mae’r system yng Nghymru yn gweithio.

“Dydi o ddim yn fater o gael gwared ar hunaniaeth y rheilffyrdd yma yng Nghymru,” meddai.

“Ond mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i natur y system drafnidiaeth yn hytrach na dim ond dweud, ‘Wel, beth am i ni ddatganoli hyn ar llall i Fae Caerdydd?”

Mae Oliver Lewis wedi cadarnhau y bydd polisïau maniffesto’r blaid ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026 yn cael eu cynllunio a’u cadarnhau gan aelodau’r blaid yng Nghymru.

“Mae gennym Gyfarwyddwr Reform yng Nghymru, sef Kirsty Walmsley, a hi sydd yn gyfrifol am drefnu ein gweithredoedd gwleidyddol yng Nghymru,” meddai.

“Yn amlwg, rydym yn is-gorff o Reform UK, ac rydym yn blaid undebol gan ein bod yn credu mewn gwerthoedd Prydeinig, a’r gwerthoedd sydd yn dod o ganlyniad i fod yn rhan o’r Undeb.

“Ond mae gennym ni ddisgresiwn gweithredol yng Nghymru.”

“Dim byd wedi’i gadarnhau” o ran polisïau

Beth fydd blaenoriaethau Reform UK ar drothwy etholiadau’r Senedd yn 2026, felly?

Dywed Oliver Lewis nad oes “dim byd wedi’i gadarnhau” eto.

Ond dywed hefyd fod yna “ddrwgdybiaeth” mawr ynglŷn â sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario yng Nghymru, yn enwedig ar bolisïau sydd yn gymwys ac agenda net sero.

Ychwanega y bydd y blaid yn tynnu’n ôl ar y gwariant hwn ac yn ei yrru i mewn i wasanaethau cyhoeddus.

Pe bai Reform mewn grym yn dilyn yr etholiad, dywed Oliver Lewis y bydden nhw’n cefnu ar gynlluniau i ehangu’r Senedd erbyn 2030.

“Mi fyddwn yn sicr yn gwrthdroi’r penderfyniad i ehangu’r Senedd,” meddai, er y byddai’r blaid yn debygol o elwa pe bai’r Senedd yn tyfu.

Ychwanega fod Reform yn “gefnogol i system etholiadol STV (Single Transferable Vote)” – polisi mae Plaid Cymru hefyd yn ei gefnogi.

Ond mewn cyfweliad arall ar raglen Sunday Supplement y BBC, roedd Oliver Lewis wedi codi “pryderon” am gydweithio efo’r Blaid yn ystod y Senedd nesaf.