Mae Carles Puigdemont wedi colli apêl tros ei statws fel Aelod o Senedd Ewrop, ar ôl i Lys Cyfiawnder Senedd Ewrop gefnogi’r penderfyniad i’w atal e a Toni Comín rhag dechrau yn eu swyddi.

Cawson nhw eu hethol yn 2019, pan oedden nhw’n byw’n alltud yng Ngwlad Belg a phan oedden nhw’n destun warant i’w harestio ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud â refferendwm annibyniaeth 2017, oedd yn cael ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.

Ar ôl cael eu hethol, fe wnaethon nhw wrthod tyngu llw cyfansoddiadol, sy’n un o ofynion yr awdurdodau yn Sbaen, ac felly cawson nhw eu hepgor o’r rhestr o Aelodau o Senedd Ewrop fyddai’n cynrychioli’r wlad ym Mrwsel.

Yn ôl Llys Ewrop, does ganddyn nhw ddim pwerau i adolygu rhestrau sy’n cael eu hanfon at Senedd Ewrop gan wledydd unigol, ac maen nhw’n annog Carles Puigdemont a Toni Comín i ddwyn achos yn erbyn awdurdodau Sbaen er mwyn datrys y sefyllfa.

Ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a yw’r rheidrwydd i dyngu llw cyfansoddiadol yn cyd-fynd â chyfraith yr Undeb Ewropeaidd.

Croesawu’r dyfarniad

Mae Plaid y Bobol wedi croesawu’r dyfarniad, gan ddweud na ddylai unrhyw un sy’n “ffoi rhag cyfiawnder nac yn ufuddhau i Gyfansoddiad Sbaen” gael “imiwnedd na mynd yn ddi-gosb”.

Gallai’r dyfarniad fod yn gwbl allweddol i ddyfodol Toni Comín yn yr Undeb Ewropeaidd, ar ôl i Roberta Metsola, Llywydd Senedd Ewrop, wrthod mynediad iddo i gymryd ei sedd.

Ar ôl y dyfarniad, dywed Senedd Ewrop fod tîm barnwrol yn “dadansoddi” y penderfyniad.