Mae Sbaen yn galw o’r newydd am yr hawl i gael defnyddio ieithoedd lleiafrifol yng nghyfarfod llawn Senedd Ewrop.

Mae José Manuel Albares, Gweinidog Materion Tramor, yr Undeb Ewropeaidd a Chydweithio yn Llywodraeth Sbaen, wedi anfon llythyr at Roberta Metsola, Llywydd Senedd Ewrop, mewn perthynas â Chatalaneg, Basgeg a Galiseg.

Yn y llythyr, dywed fod hwn yn “fater o flaenoriaeth i’r wlad”, gan ofyn am ymateb personol gan Lywydd Senedd Ewrop.

Dyma’r trydydd tro iddo fe wneud y fath gais, ond cafodd y ddau gais blaenorol eu hanwybyddu.

Hunaniaeth genedlaethol

Yn y llythyr, sydd wedi’i weld gan Asiantaeth Newyddion Catalwnia, mae’r gweinidog yn Llywodraeth Sbaen yn mnnu bod dechrau deddfwrfa newydd yn Ewrop yn cynnig “cyfle i roi bywyd newydd i lofnodi cytundeb gweinyddol ar gyfer y defnydd o Gatalaneg, Galiseg a Basgeg yn Senedd Ewrop”.

“Mae’n fater o flaenoriaeth i’m gwlad, ac yn rhan hanfodol o hunaniaeth genedlaethol,” meddai yn y llythyr ar Fedi 18.

“O ystyried pwysigrwydd parhau i ddod â’r sefydliadau’n nes at ddinasyddion ac annog cyfranogiad dinasyddion, mae’r defnydd yn y Senedd o ieithoedd cyfran helaeth o drigolion Sbaen ac Ewrop o bwys mawr.”

Mae’r llythyr hefyd yn cyfeirio at yr ugain miliwn a mwy o bobol sy’n byw mewn rhannau o Sbaen lle caiff Catalaneg, Basgeg neu Galiseg eu siarad a’u cydnabod fel ieithoedd swyddogol.

Dywed fod gan y tair iaith “nodweddion unigryw”, eu bod nhw’n cael eu cydnabod gan Gyfansoddiad Sbaen, a’u bod nhw’n ieithoedd sy’n cael eu defnyddio yng Nghyngres a Senedd Sbaen.

Serch hynny, fyddai cael defnyddio’r ieithoedd yng nghyfarfod llawn Senedd Ewrop ddim yn golygu eu bod nhw’n ieithoedd swyddogol; byddai’n rhaid dilyn fframwaith Cyngor Ewrop er mwyn sicrhau statws swyddogol, a byddai angen cydsyniad pob un o’r 27 o wledydd sy’n aelodau.