Mae dros 800 o ffermydd wedi gwneud cais am gyfran o fwy na £20m gan ddau gynllun cymorth gan Lywodraeth Cymru.

Ym mis Ebrill, fe wnaeth Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru sydd â chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig, gadarnhau dau gynllun i gefnogi buddsoddiad mewn seilwaith fferm.

Mae’r ddau gynllun wedi cael eu dylunio i alluogi ffermwyr i wella gwaith rheoli slyri drwy ddarparu cymorth ar gyfer capasiti storio ychwanegol a/neu atal dŵr glaw rhag mynd i mewn i storfeydd slyri, fel nad ydyn nhw angen gymaint o le i storio.

Pwrpas y cynlluniau yw helpu i wella ansawdd pridd, aer a dŵr, a gwneud yn siŵr bod ffermydd yn fwy gwydn wrth ddelio ag effaith bosib newid hinasawdd, ynghyd â sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau Dŵr.

‘Galw uwch na’r disgwyl’

Dywed Llywodraeth Cymru fod y galw am gymorth wedi bod yn uwch na’r disgwyl, ond maen nhw’n gwahodd pob ymgeisydd cymwys i’r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau i symud ymlaen i’r cam nesaf, a bydd angen iddyn nhw gyflwyno’u ceisiadau llawn erbyn Rhagfyr 9.

Mae gwerth £1.06m o grantiau eisoes wedi’u derbyn o dan y cynllun Gorchuddio Iardiau, ac mae dros 700 o Ddatganiadau o Ddiddordeb wedi dod i law ar gyfer y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau.

“Rwy’n falch iawn bod lefel mor uchel o ddiddordeb wedi bod yn y cynlluniau hyn gyda dros 800 o fusnesau fferm yn gwneud cais am gymorth,” meddai Huw Irranca-Davies.

“Bydd hyn yn eu galluogi i adeiladu gwytnwch i amodau tywydd eithafol – ac yn helpu i wella ansawdd dŵr yn ein hafonydd ac is-afonydd.

“Ni fu ymwybyddiaeth y cyhoedd o gyflwr ein hafonydd erioed yn uwch. Mae hyn yn rhoi’r sector amaethyddol mewn sefyllfa bwerus i helpu i wella ansawdd ein hamgylchedd afonydd.

“Mae ffermwyr, perchnogion tir a busnesau amaethyddol ar flaen y gad yn yr ymdrech hon, ac felly mae’n hanfodol ein bod yn rhoi’r cymorth iddyn nhw ddatblygu arferion cynaliadwy ac atebion arloesol.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi gweld yr effaith mae’r tywydd gwlyb wedi ei chael ar amaethyddiaeth – sydd hefyd yn dangos pwysigrwydd buddsoddi mewn gwytnwch.

“Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn ffermio mewn amodau llawer mwy heriol.

“Mae’n rhaid inni weithredu heddiw i addasu ac ymateb i’r heriau hyn – gan gymryd camau i adeiladu gwytnwch yn erbyn effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd.

“Byddwn yn annog pawb sydd wedi cael eu dewis i gyflwyno eu ceisiadau llawn a manteisio i’r eithaf ar y cyllid sydd ar gael.”