Mae’r ddadl hirfaith am godi dysglau radar gofodol yng ngogledd Sir Benfro wedi achosi dryswch pellach dros y penwythnos, ar ôl i’r Weinyddiaeth Amddiffyn dynnu ac ail-lansio’r ffurflen gwynion swyddogol ar eu gwefan.

Cafodd y ffurflen ei lansio’n wreiddiol ddydd Llun diwethaf (Medi 16) er mwyn parhâu â’r broses ymgynghori statudol.

Roedd gofyn i bobol leol rannu eu cwestiynau a’u pryderon drwy’r ffurflen.

Ond dros y penwythnos, cafodd y ffurflen ei thynnu o’r wefan am resymau anhysbys, cyn ymddangos ar y wefan eto, a’r ffurflen yn gweithio.

Wrth ymateb i gwynion gan un gohebydd lleol, soniodd y cwmni sy’n trefnu’r ymgynghoriad, Cascade, fod y ffurflen wedi’i thynnu am fod y tanysgrifiad oedd ganddyn nhw gyda chyflenwyr y ffurflen wedi dod i ben, am fod cymaint ohonyn nhw wedi’u cyflawni.

Yn ôl yr ymateb hwn, roedd angen iddyn nhw uwchraddio’r tanysgrifiad er mwyn i’r ffurflen gael ei hail-lansio.

Ond mewn ymateb arall ychydig yn ddiweddarach, dywedodd y cwmni nad eu tanysgrifiad oedd ar fai ond yn hytrach gwall ar y wefan, ac mai dim ond angen cywiro’r wall oedd ei angen.

‘Pwysau’r ymgyrch yn llwyddo’

Yn ôl y grŵp sy’n ymgyrchu yn erbyn codi’r dysglau, Parc yn erbyn DARC, mae’r ymateb i’r dryswch hwn yn dangos bod pwysau’r ymgyrch yn gweithio.

“Un ai mae’r cwmni PR o Lundain, Cascade, mor anobeithiol eu bod nhw wedi defnyddio fersiwn o’r ffurflen sydd am ddim, ac wedi gorfod uwchraddio’r tanysgrifiad, neu dydyn nhw ddim wedi bod yn hapus gyda’r holl ymatebion negyddol sydd wedi’u hanfon atyn nhw ac wedi ceisio tynnu’r ffurflen yn gyfan gwbl,” meddai llefarydd ar ran yr ymgyrchwyr.

“Beth bynnag, rydyn ni wedi derbyn llwyth o e-byst yn gofyn am gopïau papur o’r ffurflenni, ac wedi dosbarthu dros 50 dros y penwythnos yn unig.

“Mae’n deg dadlau bod pwysau gan ymgyrchwyr a’r wasg wedi eu gorfodi nhw i drwsio’r broblem ac ail-lansio’r ffurflen ar y wefan.

“Faint mae Cascade yn cael eu talu am y gyfres yma o wallau, tybed?”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Cascade.

Cyfarfod i leddfu pryderon am orsaf radar gofodol yn Sir Benfro “yn siambls llwyr”

Efan Owen

Yn ôl y grŵp Parc yn erbyn DARC, dim ond “ymarfer ticio bocsys” oedd ymgynghoriad cyhoeddus y Weinyddiaeth Amddiffyn