Mae aelodau o wrthbleidiau’r Senedd wedi galw am fanylion cynllun trawsffiniol i leihau amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, gan awgrymu y byddai’n “gimic cysylltiadau cyhoeddus” yn unig heb y manylion hynny.

Fe wnaeth Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, bwyso ar y Prif Weinidog Eluned Morgan ynghylch cydweithio trawsffiniol rhwng llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, gafodd eu cyhoeddi yng nghynhadledd Llafur.

Dywed y Ceidwadwr fod Llywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig wedi gwneud cynnig tebyg gafodd ei wfftio’r llynedd, a bod 50,000 yn rhagor o bobol wedi ymuno â’r rhestr aros yn y cyfamser.

Galwodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, am ragor o fanylion hefyd, “fel y gallwn ni graffu ar y manylion llywodraethu ac ariannu – fel arall, gallen ni feddwl mai stynt yn unig oedd o”.

Disgrifiodd Eluned Morgan, fu’n Brif Weinidog ers llai na 50 diwrnod, y cynnig ym mis Awst 2024 fel un nad oedd o ddifrif, wrth iddi gyhuddo’r Torïaid o chwarae gwleidyddiaeth.

“Rydyn ni wedi dechrau’r sgwrs – byddwn ni’n llunio’r manylion dros yr wythnosau i ddod,” meddai’r Farwnes Morgan yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog.

‘Ffynnu’

Mewn datganiad ehangach i’r Senedd ar gydberthynas rynglywodraethol, cododd hi’r cynlluniau ar gyfer Cyngor Cenhedloedd a Rhanbarthau fyddai’n cynnwys Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Prif Weinidogion gwledydd Prydain, a meiri.

Cyfeiriodd hi hefyd at addewid Llafur i gryfhau Confensiwn Sewel, hynny yw na fydd San Steffan “fel arfer” yn deddfu ar feysydd datganoledig heb gydsyniad.

Dywedodd y bydd cytundeb yn cael ei ddatblygu gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn amlinellu sut fydd y pedair cenedl yn cydweithio er gwell.

“Dw i’n ymrwymo i ddod ag egni a pharch i’r gwaith pwysig hwn, a pharhau i sefyll lan dros fuddiannau Cymru o fewn undeb sy’n fywiog ac yn ffynnu,” meddai wrth y Siambr.

“Mae cael dwy lywodraeth yn cydweithio er lles Cymru o fudd i bobol ledled y wlad.”

‘Ailosod’

Fe wnaeth Eluned Morgan feirniadu Llywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig, gan rybuddio bod perthnasau rhynglywodraethol wedi dioddef yn ystod cyfnod y Ceidwadwyr mewn grym.

“Dydyn ni ddim wastad wedi cael parch yn ein tirluniau rhynglywodraethol dros y degawd a hanner diwethaf…” meddai.

“Mae hanner yr amser yna wedi cael ei dreulio’n cydweithio â llywodraeth oedd ddim yn parchu datganoli, ac heb fod â lles Cymru wrth ei chalon.”

Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Senedd fod Llywodraeth Lafur newydd y Deyrnas Unedig wedi cynnig cyfle i ailosod y berthynas ac i ddechrau “cyfnod o bartneriaeth”.

Dywedodd ei bod hi wedi cyfarfod â Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, y Canghellor Rachel Reeves, a Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i drafod materion yn cynnwys ariannu teg i Gymru.

Wrth gloi, dywedodd y bydd “Llywodraeth Cymru’n ceisio manteisio ar y cyfle i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y Deyrnas Unedig er lles pobol Cymru.”

‘Hesb’

Fe wnaeth Andrew RT Davies wrthod honiadau “rhyfedd” y Prif Weinidog ynghylch Llywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig, gan grybwyll y cydweithio ar refferendwm 2011 yn ymwneud â phwerau deddfu.

“Mae ymhell o fod yn anialwch hesb o gydweithio,” meddai.

“Roedd trafodaethau cadarn â chanlyniadau cyffyrddadwy – a dyna pam ein bod ni’n eistedd mewn senedd ddeddfwriaethol â phwerau trethu heddiw.”

Dywedodd arweinydd yr wrthblaid wrth y Siambr fod dileu Taliad Tanwydd y Gaeaf oddi ar bensiynwyr yn ganlyniad amlwg i’r bartneriaeth rhwng llywodraethau Llafur.

Fe wnaeth e hefyd feirniadu Eluned Morgan am awgrymu mewn cyfweliad fod ganddi gymaint o ddylanwad ar Donald Trump ag sydd ganddi ar Syr Keir Starmer.

‘Annheg’

Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth gyhuddo’r Prif Weinidog o danseilio addewid cyn yr etholiad y byddai dwy Lywodraeth Lafur yn cydweithio mewn partneriaeth er lles Cymru.

“Mae’r cyfaddefiad gan y Prif Weinidog ynghylch ei diffyg dylanwad ar Keir Starmer – gymaint ag sydd ganddi dros Donald Trump, yn ei geiriau hi ei hun – yn destun pryder,” meddai.

Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth honni nad oedd y Prif Weinidog wedi ceisio brwydro dros Gymru hyd yn oed ar faterion hanfodol megis datganoli Ystad y Goron.

“Fel mae’n sefyll, bydd Ystad y Goron yn cael mwy o bwerau benthyg na’i Llywodraeth Cymru ei hun,” meddai’r Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn.

Ychwanegodd na fydd Llafur yn anrhydeddu ymrwymiad blaenorol i ddileu Fformiwla Barnett sy’n “annheg yn ei hanfod” ac yn cael ei ddefnyddio i ddyrannu arian i Gymru.