Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo’r Blaid Lafur o dderbyn pleidleisiau’r Cymry heb roi unrhyw beth yn ôl iddyn nhw.
Maen nhw’n dweud bod Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn “gorfodi penderfyniadau anodd” ar bobol sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd ymdopi, a’u bod nhw’n “gwrthod ailgydbwyso’r economi”.
Yn ystod araith gerbron Cynhadledd Llafur, cyhoeddodd Starmer mai yn Aberdeen fydd pencadlys newydd y cwmni ynni GB Energy, ond dywed Plaid Cymru mai’r “unig sôn am Gymru oedd dathlu buddugoliaethau’r Blaid Lafur yn y wlad”.
Dywed Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, fod Llafur “unwaith eto’n derbyn pleidleisiau’r Cymry heb roi dim byd yn ôl”.
“Mi ddilynodd o’r un hen sgript flinderus mae’r Torïaid wedi bod yn ei gwthio ers 14 o flynyddoedd: gorfodi ‘penderfyniadau anodd’ ar y rhai sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd, tra’n gwrthod dangos y dewrder sydd ei angen i ailgydbwyso’r economi,” meddai.
“Dro ar ôl tro, dywedir wrth bobol fod angen iddyn nhw oddef ychydig yn rhagor o galedi er mwyn elwa yn y dyfodol.
“Ond maen nhw’n gwybod nad ydy o’n gweithio felly.
“Maen nhw’n gweld pa mor anghyfartal ddaeth y Deyrnas Unedig bellach, ac maen nhw’n deall fod angen buddsoddiad go iawn ar ein gwasanaethau cyhoeddus rŵan hyn os ydy’r economi am dyfu.”
‘Dewisiadau tecach’
Ychwanega Liz Saville Roberts fod yna “ddewisiadau tecach”.
“Gallen ni ddiwygio’r system drethi i godi’r arian sydd ei angen er mwyn buddsoddi go iawn yn ein heconomi,” meddai.
“Gallen ni gyflwyno fformiwla ariannu tecach i gynnig cefnogaeth gynaliadwy i’n gwasanaethau cyhoeddus.
“Dyma’r ‘dewisiadau anodd’ sydd eu hangen i yrru twf go iawn yn yr economi.”