Mae Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn dweud y bydd Deddf Hillsborough yn dod i rym cyn mis Ebrill nesaf.

Fe fu’n addo ers tro y byddai’n cyflwyno’r fath ddeddfwriaeth, er mwyn helpu teuluoedd y 97 fu farw yn y trychineb yn ar Ebrill 15, 1989.

Bu’n rhaid i’r teuluoedd frwydro am rai degawdau i gael cyfiawnder.

Mae teuluoedd o Gymru ymhlith y rhai gafodd eu heffeithio gan y trychineb.

Y trychineb a blynyddoedd cynnar yr ymgyrch

Ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw 35 o flynyddoedd yn ôl, cafodd cefnogwyr pêl-droed Lerpwl eu gwasgu i mewn i derasau stadiwm Hillsborough yn Sheffield, wrth i’w tîm herio Nottingham Forest yn rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr.

Cafodd David Duckenfield ei benodi gan Heddlu De Swydd Efrog i ofalu am ddiogelwch y gêm, ond dim ond ers tair wythnos roedd e wedi bod yn y swydd.

Aeth 54,000 o gefnogwyr i’r gêm, ond cafodd 96 o bobol eu gwasgu i farwolaeth yn y stadiwm, a bu farw un arall maes o law.

Yn dilyn y trychineb, roedd adroddiad yr Arglwydd Ustus Taylor yn feirniadol o’r heddlu, oedd wedi ceisio beio’r cefnogwyr am achosi’r trychineb ond penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd tystiolaeth i ddwyn cyhuddiadau yn erbyn unigolion neu sefydliadau, er i’r heddlu gyfaddef esgeulustod.

Yn ystod y cwest i farwolaethau’r cefnogwyr, fe wnaeth yr heddlu feio’r cefnogwyr unwaith eto am fod yn feddw a chyrraedd y stadiwm yn hwyr heb docynnau.

Daeth rheithgor yn y cwest i’r casgliad fis Mawrth 1991 fod y cefnogwyr wedi marw’n ddamweiniol, ac fe wnaeth David Duckenfield ymddeol o’r heddlu fis Hydref y flwyddyn honno ar sail cyngor meddygol.

Cafodd cais am adolygiad barnwrol i reithfarn y cwest gwreiddiol ei wrthod yn 1993.

Ddiwedd y flwyddyn honno, cafodd drama Jimmy McGovern am y trychineb ei darlledu gan ITV, a honno’n datgelu sut yr aeth yr heddlu ati i gelu’r gwirionedd.

Ymgyrchu o’r newydd

Yn 1997, fe wnaeth y Llywodraeth Lafur yn San Steffan orchymyn bod yna graffu ar dystiolaeth gan yr Arglwydd Ustus Stuart-Smith.

Daeth i’r amlwg bryd hynny fod Heddlu De Swydd Efrog wedi golygu ac addasu tystiolaeth 164 o blismyn cyn anfon dogfennau at ymchwiliad Taylor.

Fe wnaeth Jack Straw, Ysgrifennydd Cartref San Steffan ar y pryd, wrthod cynnal ymchwiliad newydd ond roedd yn agored i’r fath alwad gan farnwr annibynnol.

Yn 1998, penderfynodd yr Arglwydd Ustus Stuart-Smith nad oedd diben erlyn neb na dileu rheithfarn y cwest gwreiddiol.

Erbyn 2009, roedd y Llywodraeth Lafur ac yn benodol y gweinidogion Andy Burnham a Maria Eagle yn derbyn fod angen craffu ar yr holl ddogfennau’n ymwneud â’r trychineb.

Wrth i Andy Burnham draddodi araith yn stadiwm Anfield yn Lerpwl, fe fu’r dorf yn galw am “Justice for the 96”, oedd wedi dod yn slogan i’r ymgyrch am gyfiawnder.

Yn 2012, cyhoeddodd Panel Annibynnol Hillsborough adroddiad dan arweiniad yr Athro Phil Scraton, ac roedd hwnnw’n tynnu sylw at ffaeleddau’r heddlu a’u hymgais i feio’r cefnogwyr.

Bryd hynny, ymddiheurodd David Cameron, y Prif Weinidog, wrth y teuluoedd ac fe wnaeth Theresa May, yr Ysgrifennydd Cartref, orchymyn ymchwiliad troseddol o’r newydd, ac fe lansiodd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu ymchwiliad hefyd.

Cafodd y rheithfarn wreiddiol ei diddymu ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad oedd y cwest gwreiddiol wedi’i gynnal yn y modd priodol.

Dechreuodd y cwest o’r newydd yn 2014, ac fe wnaethon nhw bara dwy flynedd – yr hiraf erioed – gan ddod i benderfyniad ar Ebrill 26, 2016 fod y 96 cefnogwr wedi marw’n anghyfreithlon drwy ddynladdiad oherwydd esgeulustod difrifol.

Bu farw Andrew Devine, cefnogwr rhif 97, yn 2021.

Yn sgil y rheithfarn, cafodd yr honiadau am ymddygiad y cefnogwyr eu tynnu’n ôl hefyd.

Cafwyd David Duckenfield yn ddieuog o gyhuddiadau troseddol yn 2019, ond cafwyd Graham Mackrell o Glwb Pêl-droed Sheffield Wednesday yn euog o droseddau iechyd a diogelwch.

Aeth Duckenfield gerbron llys am yr eildro, ond cafwyd e’n ddieuog.

Cafwyd tri yn ddieuog yn 2021 o gyhuddiadau’n ymwneud â chofnodi anghywir ar ddogfennau’n ymwneud â’r trychineb.

Cytunodd yr heddlu’n ddiweddarach i roi iawndal i fwy na 600 o bobol.

Ond fe fu’n rhaid i’r teuluoedd barhau i frwydro am ‘Gyfraith Hillsborough’, fyddai’n gosod dyletswyddau penodol ar yr heddlu ac yn rhoi hawl i deuluoedd sy’n galaru i dderbyn yr un lefel o arian ag awdurdodau cyhoeddus i gael cynrychiolaeth gyfreithiol mewn cwestau.

‘Brwydr’

Bellach, dywed Syr Keir Starmer na ddylai’r teuluoedd fod wedi gorfod brwydro mor galed i sicrhau Cyfraith Hillsborough.

Dywed y bydd ei lywodraeth yn cyflwyno’r Gyfraith, ac yn mynd i’r afael â nifer o anghyfiawnderau, gan gynnwys Horizon, gwaed wedi’i heintio, Windrush a Thŵr Grenfell.

Bydd Cyfraith Hillsborough yn cynnwys sancsiynau troseddol, ac mae disgwyl iddi ddod gerbron San Steffan cyn mis Ebrill nesaf, 35 o flynyddoedd wedi’r trychineb.