Mae Plaid Cymru’n galw am sefydlu pwll nofio maint Olympaidd yn y gogledd.

Daw’r alwad yn dilyn llwyddiant Medi Harris o Borthmadog wrth gymhwyso ar gyfer Gemau Olympaidd Paris eleni.

Yn ôl y Blaid, mae nofwyr o’r gogledd yn haeddu tegwch pan ddaw i hyfforddi, a dywed Mabon ap Gwynfor, yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, y byddai cyfleuster o’r fath yn galluogi’r genhedlaeth nesaf i hyfforddi’n nes at adref.

Dywed Mabon ap Gwynfor y byddai pwll o faint Olympaidd yn y gogledd yn galluogi nofwyr i gyflawni eu potensial, ac yn rhoi mwy o gyfleoedd hyfforddi i’r rhai sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd fel Gwynedd ac Ynys Môn.

Ychwanega fod nofwyr elitaidd o ogledd, canolbarth a gorllewin Cymru dan anfantais amlwg o ran cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi, o ystyried mai dim ond yng Nghaerdydd ac Abertawe mae pyllau nofio maint Olympaidd Cymru, gyda llawer o ogledd Cymru yn teithio dros y ffin i Lerpwl neu i Fanceinion i hyfforddi a chystadlu.

“Dylai nofio ac yn wir yr holl chwaraeon dyfrol fod ar gael i bawb, lle bynnag maen nhw’n byw ledled Cymru,” meddai.

“Mae’n hanfodol bod buddsoddiad mewn cyfleusterau chwaraeon a thalent chwaraeon newydd yn cael eu dosbarthu’n deg ledled Cymru.

“Fel y mae, rhaid i nofwyr o ogledd Cymru deithio i’r de i Gaerdydd neu Abertawe neu dros y ffin i Lerpwl neu Fanceinion i hyfforddi mewn pyllau 50m maint Olympaidd.

“Mae hyn yn rhoi pwysau gormodol ar nofwyr, yn enwedig yn y cyfnod cyn cystadlaethau neu ddigwyddiadau, heb sôn am y baich ychwanegol o deithio i’r lleoliadau hyn ac oddi yno.

“Mae meddwl am orfod teithio hyd at bum awr i hyfforddi yn ddigon i atal rhai pobol rhag dilyn eu huchelgeisiau.

“Mae llwyddiant nofwyr elitaidd fel Medi Harris o Borth y Gest, Porthmadog yn dangos y potensial o fewn ein cymunedau, ond faint yn fwy o nofwyr allai ddod yn athletwyr elitaidd pe bai ganddynt fynediad i gyfleusterau hyfforddi yn nes adref.

“Mae’n hen bryd sefydlu pwll nofio maint Olympaidd yng ngogledd Cymru.”

‘Rhwystrau’

“Mae nofwyr elitaidd a rhai sy’n cychwyn ar eu hyfforddiant ac sy’n byw ar draws gogledd Cymru yn haeddu mynediad i’r cyfleusterau hyfforddi mwyaf addas ar gyfer eu camp,” meddai Mabon ap Gwynfor wedyn.

“Dylid rhoi pob cyfle i’n talent cynhenid ​​gyflawni eu potensial ac ni ddylid rhoi rhwystrau yn eu ffordd i ddilyn eu huchelgeisiau oherwydd diffyg mynediad at gyfleusterau hyfforddi.

“Galwaf felly ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid yn y gogledd i archwilio sut y gellir cyflawni hyn.”