Mark Hughes, cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru, yw’r ffefryn i gael ei benodi’n rheolwr Caerdydd.

Yr enwau eraill yn y ras ar hyn o bryd yw James Rowberry, hyfforddwr Cymru; rheolwr Charlton, Nathan Jones; a Freyr Alexandersson, prif hyfforddwr Kortrijk yng Ngwlad Belg.

Cafodd Mark Hughes ei ddiswyddo gan Bradford ym mis Hydref, ac mae e hefyd wedi rheoli Manchester City, Fulham, Stoke a Southampton yn y gorffennol.

Bu’n rheoli Cymru am bum mlynedd rhwng 1999 a 2004.

Nid dyma’r tro cyntaf i gyn-ymosodwr Cymru gael ei gysylltu â’r swydd, ar ôl bod yn ffefryn yn 2019 yn dilyn ymadawiad Neil Warnock, cyn i’r Adar Gleision benodi Neil Harris.

Cafodd Erol Bulut ei ddiswyddo dros y penwythnos, ar ôl i Gaerdydd golli yn erbyn Leeds i’w gadael nhw ar waelod y Bencampwriaeth, wrth iddyn nhw geisio buddugoliaeth gynta’r tymor ar ôl chwe gêm.

Mae disgwyl i’w is-reolwr Omer Riza fod yng ngofal y tîm am y tro, ond dydy hi ddim yn glir a fydd e’n cael ei ystyried ar gyfer y swydd yn barhaol.

Caerdydd

Rheolwr Caerdydd wedi’i ddiswyddo

Dydy’r Adar Gleision ddim wedi ennill yr un gêm y tymor hwn, ac maen nhw ar waelod y Bencampwriaeth ar ôl chwe gêm