Mae’r rheolwr Erol Bulut wedi cael ei ddiswyddo gan Glwb Pêl-droed Caerdydd.

Daw hyn ar ôl i’r Adar Gleision fethu ag ennill yr un o’u chwe gêm yn y Bencampwriaeth hyd yma y tymor hwn.

Maen nhw ar waelod y Bencampwriaeth, gyda dim ond un gôl hyd yn hyn.

Mae’r clwb wedi diolch i Bulut a’i hyfforddwr Nikolaos Karydas am eu gwaith, gyda’r ddau yn gadael ar unwaith.

Mae’n bosib y bydd rhagor o ymadawiadau hefyd, ond bydd Omer Riza yn gyfrifol am y tîm yn y cyfamser.