Mae capten tîm criced Morgannwg a seren y gêm wedi bod yn ymateb ar ôl iddyn nhw ddod yn bencampwyr Cwpan Undydd Metro Bank ddoe (dydd Llun, Medi 23), a hynny am yr eildro mewn pedwar tymor.
Ar ôl glaw trwm ddydd Sul (Medi 23), bu’n rhaid gohirio’r gêm a phan ddaeth hi’n bosib ei chynnal ddoe, cafodd ei chwtogi i ugain pelawd fel bod modd ei chwblhau cyn i’r glaw ddod eto.
Talodd y penderfyniad ar ei ganfed, wrth i’r cefnogwyr oedd wedi aros yn Nottingham weld gwledd o griced ar gae Trent Bridge.
Cyrhaeddodd y sir Gymreig 186 am saith yn eu hugain pelawd, diolch i Sam Northeast yn y lle cyntaf, gyda’i 63 heb fod allan, cyn i Timm van der Gugten daro 29 oddi ar un belawd i sicrhau bod y sir yn gosod nod sylweddol.
Er i Andy Umeed (45) a’r capten Sean Dickson (44) gyfrannu’n sylweddol gyda’r bat i’r Saeson, doedd hynny ddim yn ddigon wrth i Andy Gorvin a Ben Kellaway gipio dwy wiced yr un, gyda Gwlad yr Haf ond yn cyrraedd 171 am chwech.
Roedd cryn ddathlu gerbron y rheiny oedd wedi aros i weld y cwpan yn cael ei godi.
Dyma ymateb y capten, y prif hyfforddwr a seren y gêm…
Kiran Carlson, capten Morgannwg:
“Cafodd nifer ohonon ni ein synnu pan welon ni’r cae gyda’r gorchuddion i ffwrdd. Roedden ni braidd yn ansicr, ond dw i’n rhyfeddu ein bod ni wedi llwyddo i gael gêm gyda’r radar tywydd fel oedd e [ddydd Sadwrn]. Roedden ni mor falch ein bod ni wedi cael [gêm], felly pob clod i Trent Bridge a’r tirmyn.
“Y peth pwysig gyda’r gystadleuaeth hon yw cyflawni pan fu’n rhaid i ni. Mae gyda ni gymysgedd da o brofiad ac ambell un ifanc, ond dangosodd Sam [Northeast] pam ei fod e’n chwaraewr mor wych. Fe wnaeth e sicrhau sgôr cystadleuol i ni.
“Roedd yr awyrgylch braidd yn rhyfedd, ac yn teimlo ein bod ni’n ôl yng nghyfnod Covid [heb dorfeydd], ond roedd hi’n braf pan ddechreuodd y cefnogwyr ganu tua’r diwedd. Mae [y dorf fechan] yn drueni. Byddai [dydd Sadwrn] wedi bod yn awyrgylch anhygoel, ond rydyn ni’n dal wedi ennill tlws ac wedi dod ag e adref i’r cefnogwyr.”
Sam Northeast, seren y gêm:
“Doedden ni ddim wedi chwarae T20 ers sbel, felly roedd hi’n rhyfedd dod i mewn i ornest ugain pelawd. Doedden ni ddim hyd yn oed yn gwybod y bydden ni’n cael chwarae gêm o gwbl, felly roedd newid o 50 i 20 pelawd ryw ddeugain munud ymlaen llaw yn golygu ein bod ni wedi gorfod addasu gorau gallen ni. Yn y pen draw, dechreuodd hi fwrw glaw wrth i ni ddod i ffwrdd, felly mae’n amlwg fod rhywun yn edrych i lawr arnon ni.
“Dw i’n falch eu bod nhw wedi gwneud y newid. Dyna’r peth cywir i’w wneud o dan yr amgylchiadau er mwyn cynnal y gêm.
“Fe fu’n dymor hir ac mae pawb wedi gweithio mor galed, felly mae cael ei orffen e â thlws yn gwbl haeddiannol.”
Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg:
“Dw i mor falch dros y clwb.
“Mae’n drueni na lwyddon ni i’w gorffen hi [ddydd Sul], oherwydd dw i’n meddwl bod mwy o gefnogwyr gyda ni yno na nhw. Roedd cymaint ohonyn nhw o amgylch y cae, ac fe fyddai wedi bod yn braf iddyn nhw fwynhau ein perfformiad heddiw.
“Ond dw i’n siŵr y bydden nhw wedi bod o flaen y teledu neu’r ffrwd byw, ac rydyn ni’n sicr wedi derbyn llawer o negeseuon ganddyn nhw.
“Rydyn ni mor bles fel clwb, ac mor falch o’r tîm.”