Gallai seren snwcer a chyn-bencampwr y byd dderbyn anrhydedd fwyaf Blaenau Gwent ar ôl ei farwolaeth.

Yng nghyfarfod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddydd Iau (Medi 26), bydd gofyn i gynghorwyr gymeradwyo argymhelliad fod Ray Reardon, gafodd ei eni yn Nhredegar, yn derbyn Rhyddfraint Bwrdeistref.

Mae’r adroddiad yn dangos bod y gweithgor trawsbleidiol ar gyfer Rhyddfraint Bwrdeistref wedi trafod cais i roi’r anrhydedd i Ray Reardon ddyddiau’n unig ar ôl ei farwolaeth.

Fe wnaeth y grŵp, sy’n cael ei gadeirio gan y Cynghorydd Llafur Chris Smith, aelod arweiniol y Cyngor, gyfarfod ar Orffennaf 31 i ystyried y ceisiadau roedden nhw wedi’u derbyn.

“Cafodd Ray ei eni yn Nhredegar, ac fe wnaeth e gyfraniad arbennig i fyd snwcer, nid yn unig yn Nhredegar ond drwy Gymru gyfan a’r byd,” meddai’r adroddiad.

“Roedd Ray wedi dominyddu’r byd snwcer am bron i ddegawd, gan ennill chwe Phencampwriaeth Snwcer y Byd rhwng 1970 a 1978, a mwy na dwsin o deitlau proffesiynol eraill yn ystod ei yrfa.

“Cytunodd aelodau, er mwyn cydnabod ei gyfraniad gwych i snwcer, y dylai Ray dderbyn Rhyddfraint Bwrdeistref ar ôl ei farwolaeth.”

Eglura’r adroddiad fod Rhyddfraint Bwrdeistref “yn deitl er anrhydedd sy’n cael ei roi i berson neu sefydliad rhagorol sydd wedi rhoi gwasanaeth eithriadol i’r fwrdeistref.

“Dydy’r anrhydedd ddim yn rhoi unrhyw hawliau cyfreithiol, ond dyma’r deyrnged fwyaf y gall bwrdeistref ei rhoi.”

Cyfarfod arbennig

Pe bai cynghorwyr yn cymeradwyo’r argymhelliad, bydd angen “galw” cyfarfod Cyngor arbennig er mwyn rhoi’r anrhydedd.

Wedi’i eni yn Nhredegar yn 1932, gweithiodd Ray Reardon fel glöwr a phlismon.

Enillodd e chwe Phencampwriaeth Swncer Amatur Cymru yn y 1950au, ac fe aeth yn ei flaen i ennill Pencampwriaeth Amatur Lloegr yn 1964 cyn troi’n broffesiynol yn 1967.

Enillodd ei Bencampwriaeth Byd gyntaf yn 1970, ac fe wnaeth e ddominyddu drwy’r 1970au, gan ennill pum pencampwriaeth byd arall.

Yn 1978, enillodd ei Bencampwriaeth Byd olaf yn 45 oed.

Fe wnaeth e ymddeol o snwcer cystadleuol yn 1991.

Yn 2016, cafodd y tlws sy’n cael ei ennill ym Mhencampwriaeth Snwcer Agored Cymru ei ailenwi’n Dlws Ray Reardon er mwyn talu teyrnged iddo.

Bu farw’n 91 oed ar Orffennaf 19.