Fe ddylai gwledydd yr G7 ymrwymo i wario £22 biliwn y flwyddyn fel rhan o ymdrech sylweddol i frechu pobl ar draws y byd yn erbyn Covid, yn ôl Gordon Brown.

Mae’r cyn-brif weinidog Llafur wedi dweud y dylai brechiadau torfol ar draws y byd fod yn brif flaenoriaeth i uwch-gynhadledd yr G7, sy’n cael ei chynnal yng Nghernyw ar Fehefin 11.

Mae disgwyl i Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden fynychu’r digwyddiad, ynghyd ag arweinwyr G7 o Ganada, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Japan a’r Undeb Ewropeaidd.

“Bygwth bywydau a bywoliaeth am flynyddoedd i ddod”

Wrth ysgrifennu ym mhapur The Guardian, dywedodd Gordon Brown bod yn rhaid i wledydd yr G7 ddod a chwmnïau fferyllol, lluoedd milwrol a gweithwyr iechyd ynghyd er mwyn cyrraedd “y nifer fwyaf o bobl, yn yr amser byrraf, ar draws y ddaearyddiaeth mwyaf eang.”

Yn yr erthygl dywedodd: “Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae gwledydd cyfoethog sy’n cyfrif am 18% o boblogaeth y byd wedi prynu 4.6 biliwn dos – sef 60% o archebion wedi’u cadarnhau. Mae tua 780 miliwn o frechlynnau wedi’u rhoi hyd yma, ond mae llai nag 1% o boblogaeth Affrica Is-Sahara wedi cael eu brechu.”

Ychwanegodd y byddai imiwneiddio’r Gorllewin ond dim ond cyfran fach o’r gwledydd datblygedig yn gadael Covid-19 “i ledu, a bygwth bywydau a bywoliaeth pob un ohonom am flynyddoedd i ddod.”

“Prinder arian” i dalu am frechlynnau

Yn ôl Gordon Brown, nid prinder brechlynnau yw’r broblem, ond “prinder arian i dalu amdanyn nhw” gan ychwanegu bod yr arian sydd ei angen i ddod a’r argyfwng byd-eang i ben “yn fach o’i gymharu â’r triliynau mae Covid yn ei gostio i ni.”

“Mae angen i ni wario nawr i achub bywydau, ac mae angen gwario yfory er mwyn  parhau i frechu bob blwyddyn nes bod y clefyd yma ddim yn bygwth bywydau rhagor. Ac fe fydd hyn yn golygu gwario o leiaf 30 biliwn o ddoleri (£22 biliwn) y flwyddyn – bil nad oes unrhyw un, hyd yn hyn, yn ymddangos yn barod i’w warantu yn llawn. ”