Mae Plaid Cymru yn addo recriwtio 4,500 o athrawon a staff cymorth arbennig yn ysgolion Cymru, pe bai’r blaid yn ffurfio’r llywodraeth nesaf ar ôl etholiadau’r Senedd.
Fe wnaeth Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru, ganmol athrawon a staff ysgolion am “weithio rhyfeddodau” drwy gydol y pandemig i sicrhau bod pobol ifanc yn parhau i dderbyn addysg.
Dywed Siân Gwenllian y byddai Plaid Cymru yn codi’r cyflog cychwynnol i athrawon yng Nghymru gan 10% i £30,000, ac yn gweithio tuag at wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr, petai’r blaid yn dod i rym yn dilyn etholiad mis Mai.
“Y dechrau gorau mewn bywyd”
“Rwyf am i bob plentyn yng Nghymru, beth bynnag fo’u cod post neu gefndir, gael y dechrau gorau mewn bywyd,” meddai.
“Rhan bwysig o hynny yw sicrhau bod gan ein hysgolion gymaint o adnoddau â phosibl, nid yn unig o ran nifer yr athrawon ond hefyd eu harbenigedd wrth gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu ychwanegol.
“Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflogi 4,500 o athrawon ychwanegol a staff cymorth arbenigol mewn ysgolion ledled Cymru erbyn diwedd ein tymor cyntaf.
“Mae athrawon wedi cael cyfnod arbennig o anodd yn ystod y pandemig ac wedi gweithio rhyfeddodau i sicrhau bod ein pobl ifanc yn parhau i dderbyn addysg, waeth beth fo’r amgylchiadau heriol.”
Codi cyflogau
“Ar hyn o bryd mae un o bob tri athro yn rhoi’r gorau i’r ystafell ddosbarth o fewn eu pum mlynedd gyntaf,” meddai wedyn.
“Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn mynd i’r afael â hyn nid yn unig drwy sicrhau bod cyllid ar gael i recriwtio mwy o athrawon ond i wella’r cynnig i’r rhai sydd eisoes yn y proffesiwn.
“Byddwn yn gwneud hyn drwy godi cyflog cychwynnol athrawon yng Nghymru o 10% i £30,000 o 2022 a darparu seibiannau sabothol mewn gyrfa i athrawon.
“Mae Plaid Cymru hefyd yn ymrwymo i wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr, gan ddechrau gyda gofyniad i bob athro newydd gymhwyso fod yn gweithio tuag at radd Meistr mewn addysg a ariennir gan y llywodraeth neu bwnc sy’n berthnasol i’w gwaith dosbarth o fewn pum mlynedd.
“Dylai pob gweithiwr addysg, athrawon llawn amser ac athrawon cyflenwi fel ei gilydd, gael mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus drwy gydol eu gyrfaoedd.
“Mae’n bryd i lywodraeth Cymru roi’r gydnabyddiaeth a’r wobr lawn y maent yn eu haeddu i athrawon. Dyna beth mae pleidlais i Blaid Cymru yn ei gynnig ar Fai 6.”