Mae’r Blaid Lafur yn paratoi i bwyso ar Boris Johnson, prif weinidog Prydain, i weithredu er mwyn gwarchod menywod yn sgil llofruddiaeth Sarah Everard yn Llundain.

Mae Syr Keir Starmer am weld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno er mwyn gwneud aflonyddu menywod ar y stryd yn drosedd, ac ymestyn dedfrydau treiswyr, y rhai sy’n stelcian a’r rhai sy’n euog o lofruddio ar sail trais yn y cartref.

Byddai hefyd yn cyflwyno “dedfryd oes gyfan” ar gyfer unrhyw un sy’n cipio, ymosod yn rhywiol neu’n llofruddio dieithryn.

Mae’n dweud ei fod yn “syfrdan” nad yw’r fath “ddeddfwriaeth gynhwysfawr” yn ei lle yn 2021.

Dydy Boris Johnson ddim eto wedi cyhoeddi ei strategaeth i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Un posibilrwydd yw y gallai’r Blaid Lafur gyflwyno cynnig ar ddiwrnod y gwrthbleidiau yn hytrach nag aros i amlinellu’r cynlluniau dros yr wythnosau nesaf.

“Gallai hyn fod yn gyfle i wneud rhywbeth,” meddai Syr Keir Starmer wrth y Sunday Times.

Mae disgwyl i Boris Johnson gyflwyno’i gynlluniau ei hun erbyn diwedd y flwyddyn.

Bydd Wayne Couzens, 48, yn mynd gerbron llys yn yr hydref i wynebu cyhuddiadau o gipio a llofruddio Sarah Everard wrth iddi gerdded adref o fflat ei ffrind yn Llundain ar Fawrth 3.